Free Web Hosting by Netfirms
Web Hosting by Netfirms | Free Domain Names by Netfirms


The content of this page,
and of the entire "Old Welsh Books with English Translations" website
is, save where prior right apply,
Copyright © John Bear.



Home        Contents        Previous        Next


Er i mi ymgyfranogi gyda bechgyn dyeithr i weithio, etto yr oeddwn yn byw gyda Jack, a chenyf babell fawr fy hun, wrth ochr ei un ef, yn llawer mwy hefyd na’r un y cyfanneddai ef a’i wraig ynddi. Parhaodd y gwr a addawodd ddyfod a’m harian, i oedi ei amser yn Geelong hyd yn hyn; a chan y teimlwn un noswaith yn hynod o gwla, tybiais y buaswn yn marw cyn pen ychydig oriau; o ganlyniad, dywedais wrth Jack am iddo geisio fy arian pan y deuont, ac anfon ugain punt i’m cartref, gan gadw yr ugain arall iddo ei hun am ei drafferth; a rhoddais iddo’r cyfarwyddyd i anfon i’m cartref. “Hugh,” ebe Jack, “ni thal hyny ddim heb fod genyf bapyr o dan dy law, i ddangos dy fod yn fy anrhegu gyda haner yr arian; ac os byddi gystal ag ymdrechu ysgrifenu ychydig, a dodi dy enw tano, bydd pob peth yn dda, a byddaf yn ddiolchgar iawn i ti.” Gwnaethym ei gais rhwng deuddeg ac un o’r gloch y boreu; ac wedi i ni fel yna drefnu yr ewyllys, aeth Jack a minnau i’n gwahanol orweddleoedd.

Although I was working with new partners, I was living with Jack, and I had my own large tent, next to his, much larger than the one he and his wife were occupying. The man who promised to bring me my money continued to take his time in Geelong; and feeling very ill one evening I imagined I should be dead within hours; as a result, I told Jack to take my money when it came, and instructed him to send twenty pounds home, keeping the other twenty himself for his trouble. “Hugh,” said Jack, “he won’t give me that unless I have a note under your hand, to show that you’re giving me half the money; if you’d be so good as to try to write a little, and put your name to it, all will be well, and I shall be very grateful to you.” I carried out his request between twelve and one o’clock in the morning; and having thus arranged my will, Jack and I went to our separate resting-places.

Rhwng saith ac wyth o’r gloch boreu dranoeth, daeth Jack i’m pabell i edrych a’i byw a’i marw oeddwn; a phan welodd mai byw, dywedodd, “Hugh, a wyt ti ychydig yn well erbyn hyn?” “O, gwell o lawer,” meddwn innau. “Myfi a wyddwn o’r goreu na threnget ti ddim,” ebe Jack drachefn. Yr oedd fy mod heb farw yn golled i Jack.

Between seven and eight o’clock the next morning, Jack came to my tent to see whether I was alive or dead; and when he saw I was alive, he said, “Hugh, are you a little better now?” “Oh, much better,” I said. “You’ll live all right,” said Jack again. My not dying was a loss to Jack.

Nis gallwn ddirnad diben y dyn yn fy ngwenwyno: ai dïal am nad aethym i yfed i’w ystor ef, y dyddiau blaenorol? a ddeuai i’m meddwl weithiau; ond ar brydiau, tybiwn iddo fwriadu fy rhoddi i gysgu, fel y gallasai fy chwilio, a chymmeryd, os y cawsai, arian yn fy nghadwraeth. Ni ddaeth i fy meddwl un dychymmyg arall am ei ddiben. Dywedai’r dynion a’i hadwaenant, mai eithaf lleidr oedd ef; iddo gael ei ddal, gerfydd ei goes bren, yn tori i mewn i ystor arall ryw noswaith, ond iddo dderbyn maddeuant; ac hefyd, mai ei alltudio a gawsai o Loegr er ys llawer o flynyddoedd i Van Diemen’s Land fel y dylaswn ddyweyd yn y tudalenau blaenorol, ac nid i New Zealand.

I could not understand the man’s purpose in poisoning me: I sometimes wondered if it were revenge for not drinking in his store, in the days before; but at other times I supposed his intention was to put me to sleep, so he could search me and take any money in my possession. I could think of no other explanation. The men who knew him said he was an out-and-out thief; and that he had been caught by his wooden leg while breaking into another store one night, but was let off; and also that he had been transported to Van Diemen’s Land (as I should have said in the foregoing pages, rather than New Zealand).

Lleihaodd y boen o’m pen a’m hystlys i raddau, ac aethym i gynnyg gweithio ychydig at y bechgyn ieuaingc; a chan nad eisiau arnynt fyned i lawr y rhy gyflym gyda’r twll y soniais am dano, cyn dechreu ar hanes fy yfed a’m hyspeilio, hyd nes cael sicrwydd ei fod ar y llinell euraidd, dewisasant i mi wylio twll arall iddynt ar y Canadian Gully; ac yr oedd hyny yn dygymmod a mi yn well na’r gwaith arall, gan fy mod mor wachul.

The pain in my head and side lessened to a degree, and I went to lend a hand to the young lads; but because they did not want to go down too quickly with the hole I mentioned before beginning my account of drinking and robbery, till they were certain it was on the gold line, they chose to have me watch another hole for them on the Canadian Lead; and that suited me better than the other work, as I was so feeble.

Byddai arnaf gymmaint ofn uffern, nes y dychrynwn weithiau lawer gwaith y dydd; gan deimlo gwallt fy mhen fel yn ehedeg ymaith. Gweddiwn yn ddrylliog weithiau am gael fy arbed, gan addaw, ond i’r Hollalluog wneyd hyny, y bywiwn yn well rhagllaw. Brydiau eraill, efallai ychydig fynydau ar ol y teimladau drylliog, y byddai fy nghalon yn galed fel carreg; ac anghrediniaeth yn fy maeddu, gan geisio fy mherswadio, nad oedd na nefoedd nag uffern, na chwaith ddiafol, ïe, ac nad oedd Duw’n bod. Cynghorai ambell hên gloddiwr i mi godi fy yspryd, peidio a meddwl am farw, ac yfed ychydig frandi, neu wlybyroedd eraill i’m lloni: ac ar ryw nos Sadwrn ufuddheis i’r cynghor, meddwais yn anghyffredin, cysgais a’m traed yn uwch na’m pen, a phan ddeffroais foreu Sul, teimlais delpyn yn fy ngwddf, ac aethym allan i gerdded ychydig. Pan yn dechreu ymysgwyd, wrth gerdded, ymdorodd gwaed allan trwy fy ngenau a’m ffroenau. Newidiais fy meddyg, ac aethym at un o’r enw Kemp, yr hwn a ystyrid, y pryd hwnw, yn brif feddyg Ballarat. Punt oedd ei bris bob tro yr awn ato. Ymwelais ag ef un boreu, gyda chostrel i gael phisygwriaeth, a thelais bunt am dano. Dywedodd os teimlwn boen yn fy mynwes, y byddai raid i mi ei gael i’m gweled drachefn yr un diwrnod. Yn y prydnhawn, teimlais boen, ac aethym atto. Perodd i mi dynu fy nillad uchaf, curodd ar fy mynwes, a daliai gorn bychan, a’i naill ben ar fy mynwes, a’r llall wrth ei glust. Wedi darfod hyny, rhoddodd i mi ychydig o beth tebyg i felyn-galch i’w rhwbio, gan fy rhybuddio i beidio ei golli, am ei fod yn beth drud, a chododd bunt am hyny.

I was so afraid of hell, that I was frightened sometimes many times a day, feeling as if the hair on my head were flying off. Sometimes I prayed contritely to be saved, promising, if only the Almighty would do so, that I should live better thenceforth. At other times, perhaps only minutes after feeling repentant, my heart would be as hard as stone; and unbelief assailed me, trying to persuade me there was neither heaven nor hell, nor any devil, and even that God did not exist. Old diggers advised me to lift my spirit, not to think of death, and to drink a little brandy or other liquor to calm me: and on one Saturday I obeyed the advice, and drank an extraordinary amount, sleeping with my feet over my head, and when I woke on Sunday morning, I felt a lump in my throat, and went out to walk a bit. As I walked I started to shake, and blood sprang from my mouth and nostrils. I changed my doctor, and went to one by the name of Kemp, who was considered at that time Ballarat’s principal doctor. He charged me a pound each time I went to him. I visited him one morning, with a bottle for medicine, for which I paid a pound. He said if I felt pain in my chest I should see him again the same day. In the afternoon, I felt pain, and I went back to him. He had me take off my shirt, tapped on my chest, and held a small horn, one end on my chest, and the other at his ear. After that, he gave me some yellow stuff to rub on it, warning me not to lose it, for it was very expensive, and I was charged a pound for that.

Wedi i mi golli fy iechyd, yn y modd yna, aethym gydag un o’m cydgyfranogwyr i chwilio am wydriaid o frandi bob un. Aeth ef, druan, i ddiotta ar hyd y dydd canlynol; ac wedi iddo sobri, daeth a gofynodd pa fodd y teimlais pan y’m gwenwynwyd. Dywedais wrtho; a mynegodd yntau fod genyf gyfansoddiad llawer cryfach na’r eiddo ef, gan ychwanegu, “Yr wyf yn teimlo yn hollol yr un fath ag y teimlasoch chwithau, ond y mae bron wedi dirwyn i’r pen gyda mi.” Parhaodd i glafychu am ddeuddydd neu dri, ac anfonodd am y meddyg, yr hwn a ddaeth i ymweled ag ef unwaith, gan roddi iddo gostrelaid neu ddwy o gyffyriau, a chodi pum’ punt am hyny, a’r claf a dalodd yn ddirwgnach.

After losing my health in that way, I went with one of my partners to look for a glass of brandy for every one. The poor wretch went on drinking all the following day; and after he sobered up, he came to me and asked how I had felt when I was poisoned. I told him, and he said I had a much stronger constitution than his, adding, “I feel just the same as you did, but it’s almost over with me.” He continued to worsen for two or three days, and he sent for the doctor, who came at once, giving him one or two bottles of medicine, and charging him five pounds, which the patient paid without complaint.

Un boreu, rhwng un a dau o’r gloch, teimlai’r claf ei hun yn gwaethygu, ac archodd am i’r cymdeithion fyned i alw y meddyg atto ef; a hwy a aethant yn uniongyrchol. Wedi cyrhaedd annedd y meddyg, deisyfasant arno ddyfod o’i wely i ymweled a’n cydymaith, gan hysbysu iddo ei fod yn dra chlaf, ac yn dymuno ei weled. Yntau a omeddodd, heb ond peri iddynt roddi i’r claf ddau lonaid llwy fwrdd o frandi, ac y deuai’n well yn y man. Pan wedi dychwelyd, gwnaethant fel eu gorchymynwyd, a gofynasant i’r claf, a ddymunai ef ddywedyd unrhyw beth na hoffai ef farw cyn ei ddywedyd: dywedodd yntau newydd cwbl ddyeithr; sef, iddo briodi yn Llynlleifiad bum’ wythnos cyn ei ymadawiad; a rhoddodd gyfarwyddyd i anfon llythyr at ei briod, yn nghyd â modrwy aur, a’r ychydig arian a fyddai yn weddil ar ol talu am ei arch; ac yna trengodd yn fuan.

One morning, between one and two o’clock, the sick man felt himself getting worse, and asked his companions to go and fetch the doctor for him; and they went straight away. After reaching the doctor’s residence, they begged him to leave his bed and attend to our sick colleague, saying he was very sick, and wished to see him. He refused, but told them to give the man two tablespoonfuls of brandy, and he would soon get better. After returning, they did as they had been directed, and asked the patient whether he wished to say anything he should not like to leave unsaid before dying: he told them quite unexpected news, telling them he had married in Liverpool five weeks before his departure; and he instructed them to send a letter to his wife, with a gold ring, and the little money that would remain after paying for his coffin; and then he quickly expired.

Rhwng chwech a saith o’r gloch yn y boreu, aeth fy nghymdeithion i chwilio am saer i wneyd arch i’r cyfaill ymadawedig, yr hwn a gafwyd gerllaw, a’r hwn hefyd a addawodd fyned at y gwaith yn ddioed. Aeth y cymdeithion, gyda’r nos, drachefn, i gyrchu’r arch at ddodi’r marw ynddo; ond pan ofynwyd am dano, attebodd y saer na allodd gael amser, ac nad oedd yr arch wedi ei ddechreu, gan chwerthin fel pe ond bwystfil wedi marw.

Between six and seven o’clock in the morning, my companions went to find a carpenter to make a coffin for our departed friend, and one was found nearby, who promised to get to work immediately. They returned to the carpenter that night for the coffin; but when they asked for it, he said he could not find the time, and had not yet started work, and he laughed as if it were only a beast that had died.

Chwiliasom am saer arall i wneuthur arch, a chawsom un oddeutu milltir oddiwrth y lle hwnw, yr hwn a omeddai am beth amser, gan ddywedyd y bod ganddo ormod o waith ar ei law. Wedi i ni fynegi iddo y siomedigaeth a gawsom gan y saer chwerthinllyd, efe a dosturiodd, gweithiodd y nos, a chawsom yr arch yn y boreu, wedi ei wneyd o ffawydd, a’i bris yn ddeg punt.

We looked for another carpenter to make the coffin, and found one about a mile from there, who refused for a time, saying he had too much work on hand. When we explained the disappointment we had got from the laughing carpenter, this one took pity on us, and worked all night, and we had a coffin in the morning, made of beech, which cost us ten pounds.

Neillduodd y llywodraeth ychydig dir claddu, nid nepell oddiwrth gloddfeydd Ballarat, lle y gorphwys lliaws o gyrph pobl a aethant i’r wlad ar feddwl cael golud i fyw; ac i’r gladdfa honno yr hebryngasom gorph ein cyfaill mewn trol.

The government had set aside some burial ground, not far from the Ballarat diggings, where rested the bodies of a great many men who went to the country with the idea of retiring on their fortune; and into that place we conveyed the body of our friend in a cart.

Ar ol claddu o honom un o’n cydgyfranogwyr am y mwndwll, yr oedd pedwar o honom yn aros. Oddeutu’r Nadolig, cymhellwyd i ni adael y twll newydd, yr hwn a wyliwn ni, a myned i lawr gyflymaf a allem gyda’r un o dri y soniais am dano, am ein bod braidd yn sicr yn ein meddyliau y llechai’r wythïen aur ar ein terfynau; o ganlyniad, yr oeddem yn fyr o ddau ddyn at allu gweithio’r twll yn hwylus, ac ar yr un pryd yn anewyllysgar i gymmeryd ond rhai a dalent ugeiniau o bunnoedd am eu cyfran o’r gwaith; ac, yn wir, un o’n prif amcanion, pan yn cynllunio dal ar ein llaw gynnifer o dyllau ar unwaith, gyda gan lleied nifer o weithwyr, oedd cael arian am ran yn yr un neu y rhai lle tröai allan arwyddion llwyddiant.

Having buried one of our digging partners, four of us remained. About Christmas, we had to leave the new hole, the one we were watching, and go down as fast as we could with the one of three I mentioned, as we were almost certain in our minds that the gold vein lurked within our bounds; consequently, we were two men short of the number needed to work the hole easily, but at the same time we were unwilling to take on men who could not pay scores of pounds for their share of the work; and, indeed, one of the chief aims of our plan to hold on to so many holes at once, with so few workers, was to be paid well for a share in any of the holes where signs of success appeared.

Felly gweithiem ein goreu, a’r olwg yn ddymunol i’r anturwyr a arferent brynu rhanau yn y cloddfeydd, daeth attom fachgen ieuangc i erfyn cael ymuno a ni am hanner cant o bunnau. Cydsyniasom, talodd yr arian, a rhanasom hyny rhyngom ein pedwar. Gan nad oedd Jack yn ennill un swllt gyda Old Ned, a’r lleill o’n hen gyd-forwyr, a minnau wedi cytuno i roddi iddo ran o’m ffawd, ar yr ammod iddo yntau wneyd yr un modd â mi, aethym a chwe’ phunt a phum’ swllt iddo ef, allan o’m deuddeg punt a deg swllt: dywedodd Jack y pryd hyny, a gwên ar ei enau, wrth dderbyn yr arian o’m llaw, “Hugh, os teimli dy hun yn rhy wachul i ddal at weithio, dyro’r goreu iddi yn ddioed; gweithiaf finnau yn dy le, a gwnaf bob cyfiawnder a thi; canys yr wyt wedi bod yn dda iawn wrthyf, drwy roddi yn fenthyg i mi bum’ punt a deugain o’r blaen, yr hyn a fu yn foddion i’m cadw i a’m gwraig uwchlaw angenoctyd.” Gan i mi glywed Jack yn parhau i siarad mor deg, canmolais ef wrth fy nghymdeithion, a dywedais ei fod yn un o’r dynion caredigaf y dymunid ymdrafodi ag ef: ac er na hoffai fy nghydweithwyr Jack, ac y barnent yn gul am dano, eto llwyddais, trwy ei ganmol, i’w gael i weithio gyda ni, ac felly i gael cydgyfran yn yr un mwndwll. Tra y gweithiem ein goreu gyda’n gilydd, daeth brawd gwraig Jack i Ballarat, gan ddwyn ei briod gydag ef, yr hwn na fu cyn hyny mewn unrhyw gloddfa, nag erioed yn cynnyg tyllu i chwilio am aur; a llawen iawn oedd Jack o weled y ddau, fel na wyddai pa fodd i wneuthur digon o groesawiad iddynt.

So we worked our hardest, the sight being agreeable to the speculators who used to buy shares in the goldfields, and a young lad came to us wanting to come in with us for fifty pounds. We agreed, he paid the money, and we shared it between the four of us. Jack had not earned a shilling with Old Ned and our other former fellow sailors, and as I had agreed to give him a share of my earnings, on the conditon that he do the same for me, I took six pounds and five shillings to him, out of my twelve pounds and ten: accepting the money from me with a smile on his face, Jack said, “Hugh, if you feel yourself too weak to keep working, give it up straight away; I’ll work in your place, and do right by you; since you’ve been very good to me, by lending me forty-five pounds, which kept my wife and me from want.” Hearing Jack speak in such a fair manner, I praised him to my companions, and said he was one of the kindest men you could wish to have dealings with: and though my partners did not like Jack, and judged him unfavourably, still by praising him I succeeded in having him come in with us on the hole. While we were working hard together like this, Jack’s brother-in-law came to Ballarat, bringing his wife with him. He had never before been in any mine, nor ever tried to dig for gold; and Jack was very glad to see them both, unable to welcome them enough.

Pan oedd y twll yn gant ac wyth troedfedd ei ddyfnder, a minnau yn hynod o wachul, yn methu a bwyta braidd, a’m gwaed yn parhau i ddyfod i fyny, gorchfygwyd fy nerth gan wendid, fel nas gallwn weithio, ac aethym i’m pabell i orwedd, hyd nes y gwellhawn ychydig. Dewedais wrth frawd yng nghyfraith Jack, enw yr hwn oedd Charles Macgregor, y talem iddo ddeg swllt ar hugain y dydd am weithio yn fy lle; a boddlonodd yntau, trwy nad oedd ganddo ddim arall i’w wneuthur ar y pryd. Yn mhen diwrnod neu ddau, wedi dechreu o Charles weithio, daeth Jack at erchwyn fy ngwely, i ofyn a fyddwn foddlon i frawd ei wraig fod yn gydgyfranogwr a ni ein dau, a rhanu dwy ran yn dair o’r aur a allem ei gael o’r twll: dywedais y caniatawn hyny er ei fwyn ef, ac felly cytunasom.

When the hole was a hundred and eight feet deep, and I very feeble, hardly eating, and my blood still coming up, I was overcome by weakness, so that I could not work, and I went to my tent to rest, till I improved a little. I told Jack’s brother-in-law, whose name was Charles Macgregor, we should pay him thirty shillings a day to work in my place; and he was pleased with that, having nothing else to do at the time. In a day or two after Charles began work, Jack came to my bedside, to ask if I would be willing to go into partnership with him and his brother-in-law, and to share two thirds of the gold we got from the hole: I said I should allow that for his sake, and so we agreed.



Home        Contents        Previous        Next

The content of this page,
and of the entire "Old Welsh Books with English Translations" website
is, save where prior right apply,
Copyright © John Bear.