|
|
|
|
Ond rhyw foreu, pan yn dynesu at fy nhwll, pa beth a welwn, ond dau o ddynion nerthol ac esgyrnog, y naill yn ceibio a llenwi’r celwrn, a’r llall wrth y ddirwynlath, yn codi’r baw i fyny yn brysur. Gofynais, “Pa beth yw eich meddwl wrth fod yn gweithio ar fy nhwll i?” Attebasant, “Yr ydym ni yn penderfynu gorphen ei weithio hefyd!” Ni ymdroais i siarad a hwynt ar y pwnc, ond aethym yn ddiaros i chwilio am un o ddirprwywyr y llywodraeth, y rhai oeddynt i wneyd cyfiawnder a phob dyn ar y cloddfeydd, mewn achosion o’r fath, hyd eithaf eu gallu. Pan ddywedais wrth y gwyr hyny fy ngwyn, hwy a’m credasant, a deuodd un o honynt gyda mi at fy nhwll i’m hamddiffyn. Yr oedd gan y gwr hwn rwymyn melyn euraidd mawr o gylch ei gap, a march gwych dano; wedi ei ddisgyn, safodd uwch ben y twll yn farnydd, ac ymgasglodd torf o bobl o’n hamgylch i wrando’r prawf-holiad. Gofynodd y dirprwywr i’r ddau ddyn a gymmerasant y twll oddiarnaf eu rheswm dros eu hymddygiad; ac attebasant, “O, syr, y mae ganddo ef lawer mwy nag un twll yn y llecyn hwn.” Troes y dirprwywr ataf, a gofynodd, “A ydyw hyny wirionedd?” “Nag ydyw, syr,” meddwn innau yn ëofn. “Pa sut yr ydych yn gallu dywedyd y fath beth am y gwr ieuangc hwn.” gofynai’r dirprwywr. “Clywed eraill yn mynegi hyny a wnaethom, syr,” attebai’r dynion. Dywedodd yntau, “Y mae yn rhaid i chwi brofi, mewn modd goleu, fod gan y gwr ieuangc hwn ryw beth i’w wneuthur, yn gyfranogol o dwll arall, cyn y galloch feddiannu y twll yma oddiarno.” Dywedasant hwythau nas gallent brofi pwy oedd fy nghydgyfranogwyr, eithr mai diammheuol ganddynt fod genyf rai yno, gydag ychwaneg o dyllau, gan ychwanegu,—“Dyma beth arall, syr, sy genym yn ei erbyn, sef, nad yw ef yn gweithio braidd ddim yn y twll, er ys llawer o wythnosau, heblaw ei wylio, tra mae eraill o’i amgylch yn tyllu, ac yng ngafael a llawer o ddwfr.” Gofynodd y dirprwywr i mi, “Pa beth yw yr achos na buasai y twll yma yn ddyfnach i lawr na hyn?” Ac attebais, “Ceisio coed yn barod y mae fy nghymdeithion, syr, ac wedi i ni gael digon o goed, nyni a’i tyllwn i lawr yn fuan.” Gofynodd drachefn, “Yn mha le y maent hwy heddyw?” I’r hyn yr attebais drachefn, “Y maent hwy, syr, wedi myned er y boreu, gyda darn “Dampar,” ac ychydig dê a sugyr, i ganol y goedwig, i chwilio am goed at y twll;” pan, mewn gwirionedd, yr oeddynt yn eithaf agos ataf ar yr adeg. Yna, perodd y dirprwywr i’r ddau fyned ymaith, am nad oedd ganddynt, gan belled ag y gallai ef weled, un hawl i gymmeryd fy nhwll oddiarnaf: a chyda therfyn y farn, dyna Hwre fawr gan y dorf pobl, oherwydd i mi gael y fuddugoliaeth ar fy ngwrthwynebwyr. O ganlyniad, cymmerais feddiant yn fy mwndwll drachefn. |
But one morning, as I approached my hole, what should I see but two strong, bony men, one digging with a pick and filling the bucket, and the other at the windlass, busy lifting up the dirt. I asked “What do you think you’re doing working at my hole?” They replied, “We decided to finish working it as well!” I did not wait to discuss the matter with them, but went immediately to find one of the representatives of the government, who were to do justice to every man on the goldfield, in such cases, to the best of their ability. When I told these men my complaint, they believed me, and one of them came with me to my hole to defend me. This man had a gold band around his cap, and a splendid horse under him; he got down, and stood above the hole as judge, and a crowd of people gathered about us to hear the trial. The trooper asked the two men who had taken my hole from me the reason for their conduct; and they answered, “Oh, sir, he has many more than one hole in this spot.” The trooper turned to me, and asked, “Is that true?” “No, sir,” I said confidently. “How can you say such a thing of this young man?” asked the trooper. “We have heard others say that, sir,” the men replied. The trooper said, “You must clearly prove that this young man is working a share in another hole, before you can take possession of this hole from him.” They said they could not prove who my partners were, but they had no doubt that I had some there, with more holes, adding,—“We have something else against him, sir, that is that he has hardly worked at the hole at all, for many weeks, apart from watching it, while others about him were digging, and having trouble with a lot of water.” The trooper asked me, “How is it this hole has got no deeper than this?” And I answered, “My companions have been looking for wood, sir, and once we have enough, we shall soon take it down.” Then he asked “Where are they today?” And to this I answered, “They left this morning, sir, with a piece of “Damper,”, and a little tea and sugar, and went into the forest, to look for wood for the hole;” though in reality they were not far away at the time. Then the trooper sent the two men away, for they had no right, as far as he could see, to take my hole from me: and with that verdict, there was a great Hooray from the crowd for my victory over my adversaries. And so I took possession of my hole again. |
|
Tebyg yw cloddio am aur i chwareu damwain; ac os dygwydd fod gan un dwll, yn agos i’r aur linell, perygl o bwys yw ei roddi i fyny, cyn cael sicrwydd o hynny; canys darfu i ugeiniau, trwy wneyd felly, roddi, nid yn unig eu llafur yn ofer, ond eu gwaddol hefyd i eraill a ddaethant i orphen gweithio’r tyllau ar eu hol. Modd bynag, barnasom ni fod y llinell yn myned yn nes i’r tyllau eraill na’r un a weithiwn fy hun; a rhoddais ef i fyny mewn canlyniad, i’r neb a’i mynai pan ddewisont, a daliasom afael mewn dau o’r tri. Yn mhen ychydig rhoddasom un arall i fyny, a glynasom wrth ond un, sef yr agosaf at yr un y dadleuwyd o’i herwydd. Felly, ar ol twyllo y rhai a haerent fod genyf gyfran o dyllau eraill, aethom at ein gilydd i’r un twll hwnw, heb ofni erbyn hyn i neb allu ei gymmeryd oddi arnom; ond dychwelaf at yr hanes hyn eto, ar ol myned am ychydig amser at bethau eraill. |
Digging for gold is like a game of chance; and if a man’s hole happens to be near the gold line, there is a great danger of him giving it up, before making sure of it; and scores, by doing so, give, not only their labour in vain, but their share as well to others who come to finish working the holes after them. At any rate, we judged that the line ran nearer to other holes than to the one I was working myself; and consequently I gave up on it, and offered it to any one who wanted it whenever they chose, while we held on to two of the three. In a short time we gave another one up, and stuck to just the one, which was the nearest to the disputed hole. So, after deceiving the men who claimed I had a share in other holes, we went together to that lone hole, no longer fearing that any one would be able to take if from us; but I shall return to this story again after turning to some other matters for a little while. |
|
Gan nad oeddwn wedi gweled un Cymro a adwaenwn, er pan yn Ballarat, teimlais awydd myned i ymweled a rhai; a chefais wybod gan Gymro dyeithr i mi, y bod llawer o’r man a enwai, yn aros mewn lle a elwir Ffos y Morwyr, Sailor’s Gully. Sul oedd y dydd i’m hysbyswyd am y Cymry, ac aethym i’r lle a nodwyd yn ddi-ymdroi, at gael ychydig newyddion ganddynt. Wedi cyrhaedd drws un o’u pebyll gwelwn ei bod yn llawn o Gymry llawen a siriol; galwasant arnaf i mewn, ac aethym, gan ddechreu cydganu a chydlawenhau. Nid hir y buom yn eu plith cyn clywed fod cyfaill anwyl i mi wedi boddi yn y wlad bellenig hono; ac effeithiodd y newydd galarus yn ddwys arnaf ar yr adeg. Ar ol treulio un ran o’r Sul fel yna, yn y babell hono, ymwelais yn yr hwyr a phabell hen gyfaill, ychydig ffordd oddiyno, yr hwn a arferai werthu gwlybyroedd i feddwi dynion. Dechreuai rhai alw am y gwlybyroedd hyny, gan gynnyg i minnau gael yfed. Dymunais fy esgusodi am y tro, oblegid na theimlwn yn iach. Pan glybu’r cyfeillion hyny fy esgus, estynasant ataf haner peint o’r porter, gan fy nghymhell i’w yfed, a sicrhau y gwnai i mi lawer o les. Felly, trwy eu caredigrwydd a’u taerineb, yn amcanu fy lleshau, cymerais ac yfais yr haner peint; ond wedi cael y cyntaf i mewn i’m corph, gyrwyd amryw haner peintiau o’r un defnydd i mewn ar ei ol. |
Having not met any Welshmen I knew since coming to Ballarat, I felt a desire to see some; and I was informed by a Welshman not of my acquaintance that there were a number of my countrymen staying at a place called Sailor’s Gully. I was told this on a Sunday, and I went to the place mentioned without delay, to get some news from them. On reaching the door of one of their tents I could see it was full of merry and hearty Welshmen; they called me in, and I entered and joined in the singing and fun. I was not among them long before I learned that a dear friend of mine had drowned in that distant land; and the sad news affected me deeply at the time. After spending a part of Sunday like this in that tent, in the evening I visited the tent of an old friend a little way from there, who sold intoxicating liquor. Some men came to call for liquor, offering to let me have some. I begged to excuse myself for the time being, as I felt unwell. When these fellows heard my excuse, they held out half a pint of porter to me, urging me to drink it, and promising it would do me much good. And by their kindness and persistence in seeking my welfare, I was persuaded to take the half-pint and drink it; but having got the first into me, they sent several half-pints of the same stuff in after it. |
|
Boreu dranoeth, ymfudodd llawer o’r cyfeillion y buom gyda hwy, a’r cyfaill a gadwai’r dafarn yr un modd, i fy ymyl, i’r Gravel Pitch. Yr oeddwn innau erbyn hyn wedi myned trwy’r arian a ennillais yn y cloddfeydd, sef, 55½ o wnsiau aur, oddieithr deugain punt a ddodais mewn ariandy yn Geelong. Gan fod arnaf eisiau arian, anfonais y papyr i’w codi gyda pherchenog y stor, yr hwn oedd yn myned ar ei negeseuon i dref Geelong. Gan i mi anfon i’r dref am arian gyda hwnw, buom gyda’r hen gyfeillion ddeuddydd neu dri, yn yfed a meddwi, ac yn cael fy nghoelio am y gwlybyroedd, hyd oni ddychwelai’r gwr a’m harian. Addawais rhyw gyfran o honynt hefyd i un o’m cyfeillion pan eu cawn i’m gafael; a thrwy ein bod ni yn ngafael meddwdod, y cyfaill hwn, gan lawenhau, a wnaeth y peth yn dra hysbys, trwy ddywedyd na byddai ef yn ol o ddigon i yfed pan y deuai arian Hugh o’r dref, fel na allaswn, yn fy myw, roddi taw ar ei glebar. Yn y dyddiau gwylltion hyny, daeth dau ddyn ataf, a fi yn feddw; gwisgai un fel gwr boneddig, gyda gwychder, a chadwen aur fawr ar draws ei fynwes, a’r llall mewn gwisg morwr, gyda chrys coch, a chap brethyn; tarawodd yr un a dillad gwychion ei law yn fy llogell gyda deheurwydd cyflym, ac a’i troes y tu chwithig allan ar ysmiciad. Nid oedd genyf arian, ond yn unig rhyw gŵd bychan ac ynddo ddau arwyddnod am ddeg punt, y rhai oedd i mi eu hanfon yn fisol, y naill ar ol y llall, i’r man lle’r oeddwn yn anfon yr arian. Cefais dri o honynt yn yr ariandy ar y cyntaf, eithr anfonais un o honynt fis yn flaenorol. Glynodd y cŵd a’r arwyddnodau hyny yn ngwaelod fy llogell, a phe cawsai y ddeuddyn hwynt, ni buasent o un gwasanaeth iddynt. Modd bynag, tarewais fy llaw ar fy llogell, pan welais ymgais y dyn, a dywedais eu bod wedi ymgynnyg ar y gwaith o’m hyspeilio; “celwydd,” ebe yr un fel morwr, a tharawodd fy ngwefus fel yr aeth blaen un o’m danedd i mewn. Diwrnod arall, oddeutu yr un amser, a chyfagos i’r un lle, ond ein bod yn sobr erbyn hyn, yr oedd y cyfaill, yr addewais arian iddo, a minnau, gyda’n gilydd, a galwyd arnom i mewn i ystor i geisio haner peint o’r porter; yr oedd fy nghyfaill yn adnabyddus a gwr yr ystor honno, er ys amryw fisoedd, ond nid oeddwn i yn ei adwaen er ys mwy na deuddydd neu dri. Ni chadwai, yn esgus gwerthu, namyn ychydig hynod o ddillad, a chan mwyaf o honynt i’w gweled yn ei ddrws, at i’r heddgeidwaid feddwl, wrth fyned heibio, mai gwerthu dillad yr oedd ef. Pe gofynai un iddo bris rhai o’r dillad, dodai yntau ddigon o hwnw, rhag i neb eu prynu, gan mor ddrud oeddent, canys ar werthu gwlybyroedd meddwol yn gelgar y bywiai ef yn benaf. Wedi ein myned i mewn, cafodd fy nghyfaill haner peint o’r porter yn ddioed; ac ar ol iddo ef ei yfed, llanwyd yr un llestr i minnau, a chyn ei roddi yn fy llaw, troes o’r neilldu, a dododd beth gwyn ynddo. Gan ei fod yn Gymro, o’r un wlad a minnau, ac wedi ein gwahodd i gael haner peint ganddo, teimlais yn ddiolchgar ei fod yn dodi peth ynddo i’w wneuthur yn well ei flâs; eithr ni ofynais enw’r peth gwyn a welais ganddo, yr oeddwn yn ymddyddan a’m cyfaill ag un arall ar y pryd, yr hwn un arall a ddododd ceidwad yr ystôr i’n galw i mewn. Pan oeddwn yn yfed y porter, yr oedd y gwr yn ei brysur droi gyda llwy de, a ninnau ein dau wedi hyny a aethom allan, ac at ein gwaith. Cyn hir ar ol ein myned, teimlais fy hun yn gwaelu o salwch na chefeis ei debyg erioed o’r blaen; gadewais fy ngwaith, aethym tua’m pabell, a daeth un o’m cydgyfranogwyr i’m hanfon. Yr oedd genyf wrth fyned lif draws ar fy nghefn, ar ol bod yn chwilio am goed at y twll, ac yr oedd genyf i fyned heibio i’r babell lle’r yfais yr haner peint a’r peth gwyn, wrth droi at fy nhrigfan; fel y cyrchwn yn mlaen heibio drws yr ystordy, daeth yr un gwahoddwr ar redeg i’r drws, gan chwerthin, a chrefai genyf fyned i mewn eilwaith; ond gan y teimlwn fy hun yn gwaelu fwy fwy, gommeddais. Tra’n cerdded ychydig yn mhellach na’r ystor, trosglwyddais y llif draws i’m cydymaith, gan ei hysbysu fy mod yn wael hynod, a theimlais fy nhafod yn cael ei dynu i’m gwddf, ac fel pe cwlwm yn cael ei ddodi arno. Meddyliais y pryd hwnw, am y waith gyntaf erioed, fy mod yn disgyn i drueni tragywyddol, a’m calon yn neidio ynwyf yn ddychrynllyd. Newidiodd fy ngwedd, fy meddyliau a’m cyffroasant, a’m cluniau a grynasant, ac a gurasant eu gilydd, yn gyffelyb i fel y mynegir am Belsassar. Niweidiwyd y gyfundrefn ewynawl, fel y teimlwn bob lle megys yn siglo tan fy nhraed, a’r dydd y cymmerodd hyny le oedd oddeutu’r pymthegfed o fis Tachwedd, un mil wyth gant a thair-ar-ddeg-a-deugain. Dygodd fy nghydymaith fi at y meddyg heb golli nemawr amser, at wybod pa beth i’w wneuthur i mi. Wedi i’r meddyg ofyn, ac i ninnau hysbysu’r modd y teimlais wrth fyned yn glaf, gofynodd a fu i mi yfed haner peint o borter; gofynodd drachefn a wyddwn yn mha le, ac attebais y gwyddwn. “Wel,” ebe’r meddyg, “y maent wedi rhoddi i chwi wenwyn ynddo; ac y mae wedi gweithio i’ch gwaed, onide rhoddaswn i chwi foddion i’w daflu i fyny. Deuwch yma’r boreu, a rhoddaf i chwi beth i’ch gweithio.” Yr oedd y dydd yn hwyrhau y pryd hyny, a thrwy ymdrech mawr, aethym at y meddyg yn y boreu, dan deimlo, bob tro y tynnwn fy anadl ataf, fel pe rhywbeth yn gafael yn ymyl fy nghalon, hyd nad oeddwn yn gorfod neidio braidd oddiar y llawr. Ar ol i mi gyrhaedd atto, rhoddodd i mi ddau ddogn o ryw ddarpariaeth, gan erchi i mi gymmeryd un yn ddiatreg, ac oni byddai i un effeithio erbyn amser pennodol, i mi gymmeryd y llall hefyd. Oddeutu wyth o’r gloch y boreu y cymmerais y dogn cyntaf, a chan na effeithiodd, cymmerais y llall yn gynnar ar ei ol, gan ddysgwyl hyd yr hwyr iddynt effeithio arnaf; eithr rhwymid fi mor ofnadwy gan y gwenwyn fel y bu’n rhaid i mi fyned at y meddyg drachefn i geisio ychwaneg o gyffyriau. |
The next morning, many of the fellows I had been with, along with the friend who kept the tavern, moved next to me at the Gravel Pitch. I had by now gone through the money I made on the diggings, that is, 55½ ounces of gold, but for forty pounds I had put in a bank in Geelong. Needing money, I sent the paper to withdraw it with the owner of the store, who was going to Geelong on his errands. Having sent for money, I spent two or three days with these companions drinking and getting drunk, and getting the liquor on credit, till the man returned with my money. I also promised a share of it to one of my friends once I got my hands on it; and being in the grip of drunkenness, this delighted fellow made the matter very public, saying he should not be lacking for drink when Hugh’s money came, and for the life of me I could not put a stop to his blabbing. In those wild days, two men came to me, while I was drunk; one elegantly dressed like a gentleman, with a large gold chain across his chest, and the other in sailor’s clothes, with a red shirt, and a cloth cap; deftly, the elegant one slipped his hand into my pocket and in a flash turned it inside out. I had no money, only a small pouch containing two bank-notes for ten pounds, which I had to send monthly, one at a time, to the place I was sending the money. I had got three of them at the bank originally, but I had sent one of them the month before. The pouch with the bank-notes clung to the bottom of my pocket, and had the two men got them, they would have been of no service to them. Anyway, when I saw what the man was trying to do, I slapped my hand on my pocket, and said they were trying to rob me; “a lie,” said the one dressed like a sailor, and struck me on the lip, driving a tooth into it. Another day, about the same time, and near the same place, but when we were sober again, I was with the friend I had promised money to, when I was called in to the store to get a half-pint of porter; my friend had known the storeman for several months, but I had not known him more than two or three days. As a pretext, he kept a few clothes, most of which were visible in his doorway, so passing policemen would think that these were what he was selling. If any one asked him the price of some clothes, he would set it high enough that no one would buy such expensive things, since it was on the secret sale of liquor that he chiefly depended for his living. After we went in, my friend immediately received a half-pint of porter; and when he had drunk it, the same mug was filled for me, but before I took it in my hand, the man turned aside and put something white in it. As he was a Welshman, from my own country, I felt grateful that he had put something in my drink to make it taste better; but I did not ask what it was, being engaged in conversation with my friend and another man, the one who had had the storekeeper call us in. As I drank the porter, the man kept stirring it with a teaspoon, and after that my friend and I left, and went back to our work. Not long after that, I felt a sickness coming over me the like of which I had never felt before; I left my work, and went to my tent, accompanied by one of my partners. I was walking with a cross-cut saw on my back, having been out looking for wood for the hole, and I had to pass the tent where i had drunk the half-pint with the white stuff, on the way to my abode; as I went on past the door of the store, the same tout came running to the door, laughing, and begging me to come in again; but as I was feeling worse and worse, I declined. A little farther on past the store, I transferred the saw to my friend, telling him I was very ill, and could feel my tongue being drawn into my throat, as if a knot had been tied in it. Then I thought, for the first time ever, that I was descending into perpetual misery, and my heart leapt terribly inside me. My countenance was changed, my thoughts troubled me, and my knees shook and knocked together, as we are told of Belshazzar.5 The muscular system was affected, so that everywhere I went I felt as if the earth was shaking under my feet, and the day this all took place was about the fifteenth of November, one thousand eight hundred and fifty three. My companion lost no time in taking me to the doctor to see what could be done for me. The doctor asked how I had felt as I became ill, and we explained; then he asked whether I had drunk a half-pint of porter, and if I knew where, and I answered that I did. “Well,” he said, “you’ve been given poison, and it has worked its way into your blood, else I’d give you something to make you throw it up. Come to me in the morning, and I’ll shall give you something to purge you.” It was getting late by now, so by a great effort I went back to the doctor in the morning, feeling as if something were clutching at my heart every time I drew breath, so that I almost had to leap from the ground. When I got there, he gave me two doses of some preparation, instructing me to take one immediately, and if it did not take effect by a certain time, to take the other one as well. About eight o’clock in the morning I took the first dose, and when it did not take effect I took the other one soon after it, expecting that it would take effect on me by evening; but I was so dreadfully bound by the poison that I had to go to the doctor again for more medicine. |
|
Dywedais wrth y meddyg os gallai ef sicrhau i mi gael fy ngwenwno, y rhoddwn y dyn mewn dalfa yn ddiattreg; a’i atteb oedd, “Af ar fy llw, os bydd raid, y bu i chwi gael y driniaeth honno; ond ar yr un pryd, ni chynghorwn i chwi gymmeryd y dyn i fyny i’w gospi, oblegid yr wyf yn dysgwyl y gwellhewch i allu dilyn eich galwedigaeth cyn hir; ni wyddoch chwi pwy, na pha faint o ladron, a ddichon fod mewn cyngrair gyda’r dyn yna; ac os gwnewch unrhyw ddïal arno, ac aros o honoch drachefn yn Ballarat, yr wyf yn credu na byddai eich bywyd yn ddiogel.” Felly gadael i’r tro fyned heibio a wnaethym, gan gymmeryd cynghor y meddyg. Ciliodd fy nghwsg, gan ofn marwolaeth, a chollais fy archwaeth at ymborth, fel na allwn gymmeryd braidd ddim heblaw yfed ychydig ddwfr oddiar gig; fy niffyg anadl oedd fawr, ac yn parhau er pan ddychrynais y waith gyntaf; a gweithiai effaith yr hen oerfel ynwyf gyda grym adnewyddol, yn beswch blin, ac yn boeri dibaid; a byddwn yn gwlychu fy ngwely’r nos gyda chwys oer fel yr iâ. |
I told the doctor if he was sure I had been poisoned, I should have the man arrested without delay, and he replied, “I shall go on oath, if need be, that you have received that treatment; but at the same time, I do not advise you to have him taken up for punishment, because I expect you to be well enough to resume your occupation before long; you don’t know who, or how many thieves, may be in league with the man; and if you take revenge on him, and you stay on in Ballarat, I believe your life will be in danger.” So I heeded the doctor’s advice and let the matter pass. I slept less, for fear of death, and I lost my appetite for food, and could only drink a little meat broth; I had continued to be very short of breath ever since I first felt the fear; and the old chill worked its effect on me with renewed strength, so that I coughed terribly, and continually spat up; and my bed was soaked at night with ice-cold sweat. |
|
5 See Daniel 5:6 |