|
|
|
|
Tra yn ymddyddan â’r bugail, safem ar ben croesffyrdd, y ffordd a gerddasom yn arwain at gloddfa aur Ballarat, a’r llall at y tyddyn, ar y naill law, ac ar y llaw arall at Melbourne. Yna cerddasom ddwy filltir ar i waered at y tyddyn, a phan yn agos i’r tŷ, gwelem dros glawdd buarth bychan ben morwr, yr hwn, gydâg un hen wr methiantus oeddynt brysur yn torri ewinedd defaid. Wedi ymddyddan ychydig, hwy a ddywedasant am ini fyned i’r tŷ i gael bwyd, ei bod yn amser ciniaw y rhai a weithient yn y cynhauaf, ac na ddeuent hwy hyd nes pen yr awr. |
As we were speaking with the shepherd, we were standing at a crossroad; the road we had been taking led to the Ballarat goldfield; the other road went to the farm in one direction, and to Melbourne in the other. We walked two miles down towards the farm, and as we drew near the house, we saw over a little farmyard hedge the head of a sailor, who, along with one frail old man, was busy trimming sheep’s feet. After speaking with them a little, we were asked to come into the house for food, it being dinner-time for those working in the harvest, who would not arrive till the end of the hour. |
|
Aethom at y tŷ, yn yr hwn y gwelem y cynhauafwyr gwair yn bwyta; ar ol cyrhaedd y drws, cyfarch y bobl, eu hysbysu ein bod yn chwilio am waith, a’n bod hefyd yn flinedig, yn sychedig, ac yn newynog wedi’r daith, hwy a’n gwahoddasant i mewn, a chawsom ddigonedd o fwyd a diod. |
We went to the house, where we saw the hay-cutters eating. Having reached the door, greeted the people, told them we were seeking work and were tired, hungry and thirsty after our journey, we were invited in and given plenty of food and drink. |
|
Pan yn ciniawa, dywedodd arolygwr y tyddyn, yn mhlith pethau eraill, fod yno eisiau gweithwyr ar eu tir, ac nad gwaeth i’r meistr ein cyflogi ni mwy na rhyw rai eraill; i hyn attebwyd gan rhyw grydd ag oedd yn toi teisi gwair, “Wel, na waeth, bid sicr.” “Mae’n debyg,” ebe’r arolygwr, “eich bod wedi gweithio ar dyddyn cyn hyn:” ac attebodd Jack a’r llall yn eofn, “O do, O do!” Ychwanegodd yr arolygwr, “Dyna chwi yn iawn felly: y mae llawer o honoch chwi y morwyr yma, yn chwilio am waith ar dyddynod, ac wedi iddynt ei gael, ni fedrant wneuthur nemawr i ddim, ond nid ydych chwi felly:” attebodd yr ail îs-lywydd a Jack, “Y mae hyny yn bod yn ddïamheu, ond am danom ni, medrwn weithio faint a ofynoch!” Gofynodd yr arolygwr, “A fedrwch chwi drin pladur, a’i ddefnyddio i dori gwair?” Ac attebodd Jack, “O medraf!” |
As we dined, the overseer told us, among other things, that workers were needed, and the master would do no worse to employ us than some others; to this a cobbler who was thatching hayricks responded, “Well, no worse, that’s certain.” “Likely,” continued the overseer, “you’ve worked on a farm before.” “Oh yes, oh yes!” answered Jack and the other man boldly. The overseer added, “Right you are then: there are lots of you sailors here looking for farm work, and once they get it, they can do hardly anything, but you are no such men.” Jack and the second mate replied, “That’s true, no doubt, but as for us, we can work as much as you require!” The overseer asked. “Can you handle a scythe, and cut hay with it?” And Jack answered, “Oh yes!” |
|
Tra y siarad yna yn myned yn mlaen, ymgedwais yn lled ddistaw; canys nid oeddwn yn gwybod am dyddyn, ond fel buwch, trwy fwyta; ond yr oeddwn yn eithaf parod i atteb y gwyddwn, pe gofynasid i mi yng nghylch fy medrusrwydd. |
As the conversation went on, I kept fairly quiet, because I knew nothing about farms except, like a cow, through eating; but I was quite ready to say that I did, should I be asked about my abilities. |
|
Bywiai meistr y tyddyn mewn tŷ bychan, ar wahân oddiwrth y tŷ hwn, a gwraig y bugail yn cludo bwyd iddo o hwn i hwnw, i giniawa yr un amser a’r cynhauafwyr; a phan y deuai ef allan yr oeddem ninnau ein tri yn barod i’w wynebu, ac i’w ofyn am waith. |
The master of the farm lived in a little house, separate from the one we were in, and the shepherd’s wife took food to him now and then, so he could dine at the same time as the harvesters. The three of us were ready to face him as soon as he came out, and to ask him for work. |
|
Yn y man, dywedodd yr arolygwr, “Ewch allan at y meistr, y mae ef wrth y dâs wair;” ac ymaith a ni atto, gan ei gyfarch gyda “Prydnhawn da i chwi, syr,” a gofynasom am waith. Y meistr, gan lygadu arnom, a ofynodd, “Pa beth a fedrwch chwi ei wneyd?” Atebodd yr ail îs-lywydd, “Ond gweithio!” Yna dywedodd y meistr, “Rhaid i mi gael eich gweled yn gweithio, cyn y rhoddaf i chwi ddim gwaith;[”] attebodd yr ail îs-lywydd, “Y mae’n ofnadwy os rhaid i ddynion weithio cyn eu cyflogi;” ac eisteddodd ar y ddaiar, tynodd am ei draed, a dangosodd eu gwadnau llawn pothellau i’r meistr, gan adrodd eu bod yn ei boeni’n fawr ar ol cerdded. |
Soon the overseer said, “Go out to the master, he’s by the hayrick;” and out we went, greeting him with a “Good morning to you, sir,” and asking for work. The master eyed us and asked, “What do you want to do?”, and the second mate answered, “Just to work!” The master said, “I’ll have to see you work before I give you anything.” The second mate replied, “It’s a dreadful thing if men have to work before they’re hired;” and sat on the ground, turned up his feet, and showed the master his soles covered in blisters, declaring how badly they hurt after all the walking. |
|
Sefais yn y fan yma ychydig o’r neilldu, at ochelyd gofyniadau y meistr gymmaint ag a allwn; eithr safai Jack yn dalog gerllaw iddo, canys yr oedd ef yn deall gryn lawer am waith ar dyddyn, ac nis ofnai gael ei brofi trwy na gwaith na holiad, am y bu iddo weini ar dyddynod yn hir cyn ei fyned ar y môr. Yr ail îs-lywydd a ddechreuai dybied y meistr yn fath o ffolddyn, a dechreuodd chwerthin, wrth glywed gofyniadau mor groes i’w chwaeth, a dywedodd, “Deuwch oddiyma, fechgyn, yr wyf yn gweled nad yw hwn lawer o beth” ond rhyw fodd, ni ddeallodd y meistr ei ddywediad. |
I was standing a little apart to avoid the master’s questioning as much as I could; but Jack stood confidently beside him, as he knew a good deal about farm work, and did not fear to be tested by work or questions. He had worked on farms for a long time before going to sea. The second mate was beginning to think the master was some kind of fool, and started laughing to hear questions so little to his liking. He said, “Let’s go, boys, I can see this is no use” but somehow the master did not understand his meaning. |
|
Parhau i eistedd a wnai’r ail îs-lywydd, a phenderfynu peidio a chynnyg gweithio cyn ei gyflogi. Daeth y meistr atto drachefn, gan ofyn, “A fedrwch chwi yru bustych?” Attebodd yntau, “Os deuwch chwi gyda mi a dangos y ffordd, myfi a’u gyraf gystal ag undyn i’r man lle mynnoch!” “Pw! pw!” ebe’r meistr, “ni byddai waeth gynyf eu gyru fy hunan mwy na chanlyn dyn arall yn eu gyru:” chwarddodd y morwr yn uchel, gan edrych yng ngwyneb y meistr, fel un yn tybied ei fod yn ynfydu, a gofynodd, mewn syndod, “Wel, wel, pa sut yr ydych yn meddwl i ddyn eu hanfon i unlle mewn gwlad ddyeithr, heb i ryw un ddangos iddo’r lle?” Deallodd y meistr, y pryd hyn, na ddirnadodd yr ail îs-lywydd ei feddwl: amcan y meistr oedd gofyn a allai ef yru bustych i dynu pedrolfenni llawn gwair o’u hol o’r cae at y dâs, neu eu gyru mewn rhyw orchwyl arall cyffelyb, fel y gyrir ceffylau tynnu yn ein gwlad ni; ond tybiodd yr ail îs-lywydd a minnau, mai eu gyru gyda phastwn oedd eisiau, fel y gyrir gwartheg i ffair! |
The second mate continued to sit, resolved not to offer work before being hired. The master approached him, and asked, “Can you drive bullocks?” “If you come with me to show the way,” replied the second mate, “I shall drive them as well as any man wherever you wish!” “Pooh! pooh!” said the master, “I might as well drive them myself as follow another man driving them.” The sailor laughed aloud, looking at the master’s face as if he thought him mad, and asked in astonishment, “Well, well, how do you think a man can be sent anywhere in a strange country unless someone shows him the way?” This time the master realized that he had not understood the second mate’s meaning: the master’s purpose was to ask whether he could drive bullocks from behind, pulling wagons full of hay from the field to the hayrick, or to drive them in some other such task, as draughthorses are driven in our own country; but the second mate and myself supposed he meant to drive them with a stick, as cattle are driven to a fair! |
|
Modd bynag, aeth Jack i’r cae, a llwythodd bedrolfen gyda gwair, a hyny yn gampus, fel y darfu ei brawf yn fuan. Yna, aethym minnau i’r cae, gan siarad llawer a fy hunan ar hyd y ffordd, a theimlo yn hynod bryderus am y modd y tröai gyda mi, a chyrhaeddais yno yn fawr fy ofnau. Caseg a throl oedd yno’n awr, a galwyd am i mi fyned i’r drol a’i llwytho; er na ofalwn gymmaint am y tro nesaf, teimlwn awydd i wneyd i’r llwyth cyntaf sefyll. I fyny a mi, gan ddywedyd fod llawer o amser er pan y llwythais drol a gwair o’r blaen, a minnau, druan, heb lwytho un erioed. Tybiais yr effeithiai fy nywediad iddynt arafu ychydig gyda’r pigffyrch, gan ganiatâu i mi fwy o hamdden i geisio gosod y gwair i sefyll: ond yn lle cymmeryd fy awgrym, safai dau, un bob ochr i’r drol, a lluchiasant wair i mewn ar flaenau eu pigffyrch gan gyflymed fyth ag a allent. Gan weled nad oedd cydymdeimlad i’w gael, ymwrolais, a llwythais mor gefnog a phe wedi cynnefino llawer a’r gwaith. Llwythais hyd yn uchel, fel nad oedd eisiau ond ychydig at orphen y llwyth; ond gan na chafwyd digon i’w orphen yn y llecyn hwnw, bu yn rhaid symud ychydig yn mlaen i le arall. |
In any event, Jack went to the field, and loaded a wagon with hay, very adeptly, so that his test was soon over. Then I went to the field, talking to myself a great deal along the way, and feeling exceedingly anxious about how it would go for me, until I arrived there at the height of my fears. A cart and mare were there now, and I was called upon to go to the cart and load it; although I did not care so much about the second go, I felt the need to make the first load count for something. Up I went, explaining it had been some time since I had last loaded a haycart, though of course I had never loaded a single one. I hoped that what I said would move them to pitch the hay more slowly, giving me more time to try and stand the hay up: but instead of taking my suggestion, two men stood, one on either side of the wagon, and tossed hay in on the ends of their pitchforks as fast as ever they could. Seeing there was no sympathy to be had, I took heart, and succeeded as well as if I were long accustomed to the task. I loaded it high, so that only a little was needed to finish; but as there was not enough left in that spot, a little had to be moved on to another place. |
|
Dywedodd y pigffyrchwyr am i mi ddal fy nghafael, ac attebais, “Pob peth yn iawn;” gafaelwyd yn mhen y gaseg i’w symud, a chyda bod y drol yn dechreu ysgwyd, i lawr a’r gwair a minnau yn bendramwnwgl! Cywilyddiais y pryd hyny, gan wrido at y clustiau, a gofynodd y meistr, “Pa fodd y dygwyddodd hyn?” Nid wyf yn cofio fy atteb yn esgus, ond ei fod yn rhyw air ysmala, fel y chwarddodd y meistr a’r pigffyrchwyr am yr uchaf. |
The hay pitchers told me to hold on, and I answered, “All right.” They took hold of the mare’s head to move her, and as the cart started to shake, down I went head over heels with the hay. I was embarrassed, blushing to the ears, and the master asked, “How did that happen?” I do not recall what I answered in excuse, but it was some humorous remark, the master and the hay pitchers laughing heartily. |
|
Cefais ail gynnyg ar lwytho’r drol drachefn, a rhoddwyd rhaff i rwymo’r llwyth ynddi y tro hwn, cyn ei symud. Pan yn tynhau y rhaff, yr oeddwn yn gwaeddi fel pe mewn llong; ac ar ol gwneyd pob peth yn barod i gychwyn at y dâs, cefais wydraid o rum gan y meistr, ac addewid y rhoddai ef yr un cyflog i mi a’r lleill o’i ddynion, sef pum’ swllt ar hugain yr wythnos: eithr ei anwiredd ef oedd hyny, am y deallais drachefn fod yno hen forwr a alltudiwyd allan, ac un neu ddau eraill, yn cael deg ar hugain: er hyny, da oedd genym ni gael gwaith a rhyw gyflog ar y pryd, a dywedais, “O’r goreu, syr.” |
I got another chance to load the cart, and this time I was given a rope to tie the load before it was moved. As I tightened the rope, I shouted as if aboard ship; and when all was ready to go to the hayrick, the master gave me a glass of rum, and promised to give me the same wage as his other men, namely twenty-five shillings a week: but that was a lie, for I later found that an old sailor who had been transported out, and one or two others, were getting thirty: but I was glad to have work and a wage at the time, and I said, “All right, sir.” |
|
Cymmerwyd yr ail îs-lywydd heb ei brofi; a’r gwaith a roddwyd iddo ef a minnau, yn yspaid y cynhauaf gwair, oedd weithiau ei gasglu at ei gilydd gyda phigffyrch, ac weithiau sefyll ar ben y dâs, a’i luchio i’r un a’i hadeiladai. Eithr am Jack, byddai ef yn lladd gwair, ei lwytho yn y bedrolfen, ei daflu o honi i’r dâs, a gyru’r bustych, a phob peth yn gyffredinol. |
The second mate was taken on without test; the work he and I were given during the hay harvest was sometimes to gather the hay together with pitchforks, and sometimes to stand on top of the hayrick and pitch hay onto the one being built. But as for Jack, he was to cut hay, load it on the wagon, throw it on the hayrick, and drive the bullocks, as well as everything in general. |
|
Cyflogasom i aros dros y cynhauaf, ac wedi casglu y gwair oll i mewn, anfonwyd ni i dori mân-goed i amgau ogylch y caeau. Pan gyda’r gwaith yn tori coed, siaradem lawer a’n gilydd, mewn perthynas i ni gyflogi dros y cynhauaf am rhy fach o gyflog, tra y mynych glywem fod morwyr yn cael pedair punt ar ddeg y mis a’u bwyd, gyda chychod bychain, am ddadlwytho llongau yn Melbourne a Geelong. Felly, wedi aros ond dwy wythnos, teimlasom awydd ymadael, heb wybod pa fodd, am nas gallem hawlio myned o anfodd y meistr, oddieithr iddo attal ein cyflogau. |
We engaged to stay for the full harvest, and having gathered in all the hay, we were sent to cut brushwood to fence off the fields. While doing this we talked a great deal about whether we had engaged for too small a wage, often hearing that sailors were getting fourteen pounds a month with food, and small boats, for unloading ships in Melbourne and Geelong. So, after only two weeks, we felt the desire to leave, without knowing how, as we could not claim to be going out of the ill will of the master, unless he stopped our wages. |
|
Rhyw ddiwrnod, a ni gyda’r maen yn llifo ein bwyeill, i’r diben o fyned a thori ychwaneg o goed, daeth yr arolygwr attom, gan ddeall eisioes am ein hawydd i fyned ymaith, a dywedodd fod y meistr yn addaw i ni gael ymadael, os dewisach genym hyny nag aros, am nad oedd cymmaint o’n heisiau am dymhor byr, a’r gwenith yn dygwydd bod yn ddiweddar y cynhauaf hwnw. Seiniodd y newydd yn hyfryd ar ein clustiau, ac aethom i geisio ein cyflogau, ac yna i ymbaroto at daith i Geelong. |
One day as we were sharpening our axes with the intention of cutting some wood, the overseer, who knew of our desire to leave, came to us and said the master had promised we could go if that is what we wanted, as there was not so much need for us in a short season, the wheat being late that year. The news was sweet to our ears, and we went to collect our wages, and then prepared to travel to Geelong. |
|
Dodwyd ni allan i gysgu, yn yr awyr agored, mewn hên byglen, y rhan gyntaf o’n hamser yn y tyddyn hwn; eithr rhai nosweithiau cyn ymadael, cawsom fyned i’r beudy, at y dynion eraill, i orwedd ar ychydig wellt. |
During the first part of our stay at this farm we were put outside to sleep in the open air, in an old tarpaulin; but several nights before we left we were allowed into the cowshed with the other men, to sleep on straw. |
|
Byddant yn gweithio ar dyddynod, yn Australia, o godiad haul hyd i’w fachludiad; a rhan o’n gwaith ddydd Sul a fyddai golchi ein crysau, ac ymdrochi, mewn llyn bychan ar y tyddyn. Hawdd gwybod hefyd, wrth deithio yno, pan welir dwfr, fod tyddyn-dŷ yn agos. |
In Australia they work on farms from dawn till sunset; and part of our work on Sundays was to wash our shirts and bathe in a small pond. When travelling there, one can tell a farmhouse is near whenever water is seen. |
|
Boreu dranoeth torodd y ddau forwyr flew eu cernau ymaith yn llwyr, fel na byddai mor hawdd eu hadwaen, ac oddeutu deg o’r gloch cychwynasom at Geelong, gyda rhyw gred wan i’r llong gael morwyr a hwylio ymaith erbyn hyn. Pan wedi cerdded milltiroedd ar wastadedd Geelong, yr hwn sy dywodlyd, ac yn cyrhaedd oddeutu dwy filltir ar bymtheg, cyn myned i’r dref o aur gloddfa Ballarat, gwelem y môr, a’r llongau o bell, a thybiasom fod ein llong ninnau yno, heb hwylio ymaith; a chan feddwl nad oedd gobaith lle ar y môr y tro hwn, aethom yn ol drachefn i chwilio am dyddyn arall. |
The next morning the two sailors shaved their whiskers off completely, so they were not so easy to recognize, and about ten o’clock we set out for Geelong, with some weak hope of the ship having taken on men and sailed away by now. After walking miles on the Geelong plain, which is sandy, and reaching about seventeen miles from the goldfield town of Ballarat, we saw the sea, and the ships in the distance, and now supposed that our ship was there, having not sailed away. Thinking there was no hope of a place on the sea at this time, we went back to look for another farm. |
|
Gwelsom wedi hyny ein camgymmeriad, trwy ddarllen yn rhai o’r papyrau, fod y llong yr adeg hono wedi symud i Melbourne. Ond, gan i ni gamgymmeryd, a than ofnau, yn ol i’r wlad yr aethom, gyda meddwl cryf y cawsem fwy cyflog o lawer y tro nesaf, a ninnau wedi bod yn gwasanaethu yn y wlad mewn tyddyn. Yn fuan ar ol hyn, daeth yn wlaw mawr; gwlychwyd ni at ein crwyn, a chan fod ein oll yn awr yn sypyn bob un ar ein cefnau, gwlychwyd y rhai hyny hefyd drwyddynt, fel nad oedd genym ddim i’w newid. Daethom yn yr hwyr at fwthyn yr Albanwr esgyrnog, yr hwn a’n dododd ar y ffordd y tro’r blaen i gael gwaith: aethom i mewn, ac at y tân i ymsychu ychydig. |
We afterwards saw our mistake, through reading in some of the papers that the ship at that time had gone to Melbourne. But, mistaken and afraid, back we went into the country, determined to get a much better wage next time, having now had experience working on a farm. Soon after this it began to rain heavily; we were drenched to the skin, and as we had all our possessions in packs on our backs, these two were wet through, so that we had no dry clothes to change into. In the evening we came to the hut of the bony Scotsman who had set us on our way to get work the time before: we went in to dry our ourselves a little by the fire. |