Free Web Hosting by Netfirms
Web Hosting by Netfirms | Free Domain Names by Netfirms


The content of this page,
and of the entire "Old Welsh Books with English Translations" website
is, save where prior right apply,
Copyright © John Bear.



Home        Contents        Previous        Next


Pan y penderfynasom nad gwiw meddwl i’r tri morwyr ein goddiweddyd, ymgyfeiriasom at y goedwig, er ein diogelwch. Wrth deithio amryw filltiroedd yn y goedwig, a ninnau yn anghynefin a cherdded, chwysigenodd traed rhai o honom; am hyny eisteddasom ar y ddaiar i orphwys, a chanasom gân Saesneg!

Once we had concluded there was no chance of the three rejoining us, we turned to the forest for safety. After travelling several miles through the forest, and being unaccustomed to walking, some of us developed blisters on our feet; we sat down on the ground to rest, and sang an English song!

Ar ol gorphwys oddeutu haner awr, cyfodasom ar ein gwadnau dolurus, a chwiliasom am bob ei ffon, yn gymhorth i’r daith; ac yn mlaen a ni, hyd oni ddaethom ar draws hen ffordd, heb arni ol tramwyo, yr hon a ddilynasom am filltiroedd. Tynai yn awr at haner dydd; a chan fod yr haul yn boeth uwch ben, ein haelodau yn ddiffygiol, a ninnau heb ymborth er y dydd blaenorol, dechreuodd natur alw am adgyfnerthiad; eithr nis gwyddem yn mha fan i’w gael. Dygasom gyda ni, o’r llong, ychydig fara caled, ond yr oeddem wedi ein llethu braidd gan syched, fel nas gallem ei fwytta. Bychan yw ystyriaeth rhai am werth dwfr.

After about half an hour, we rose on our tender soles, and each man sought his own stick to ease his progress. On we went, till we came upon an old road, which showed no trace of passage, and which we followed for miles. It was by now approaching midday; and as the sun was blazing hot, our limbs weary, and we had not eaten since the day before, nature began to call for refreshment; but we could see none to be had anywhere. We had brought with us from the ship hard tack, but we were almost overcome with thirst, so that we could not eat it. Little do some appreciate the value of water.

Wrth barhau, yn llesg, i deithio ar hyd yr hen ffordd, canfyddem arni dwll bychan, tebyg i fod yn ol troed ceffyl, neu ryw anifail arall, ac yn y twll ychydig ddwfr, wedi aros yno er ys amser y gwlawogydd, feddyliwyf. Safasom uwch ben, i ystyried pa fodd y gallem gael offeryn i’w godi at y genau; yna tynodd un allan ei flwch tobacco, gan ddechreu yfed, ac aeth y blwch i ddwylaw dau neu dri eraill, i yfed yn yr un modd; ond erbyn hyn, ymgymmysgodd â chlai, fel cymmrwd, ac o ganlyniad nis gallasom gael dyferyn i bob un o honom.

As we travelled feebly on along the old road, we perceived a small hole ahead, likely the track of a horse or other animal, and in it a little water, left over from the last rains, I believe. We stood over it to consider how we might find a means to raise it to our mouths; then one man emptied his tobacco-box and began to drink, and the box passed into the hands of two or three others, so they could drink in the same way; but by now the water was mixed with clay, and was like mortar, so that we could not get another drop for any of us.

Gellir crybwyll yma mai’r gŵyn gyffredin yn Australia, yr haf, ydyw diffyg dwfr; ond bydd digonedd o hono’n dywalltedig yn amser y gwlawogydd, am oddeutu dau neu dri mis ar ddyfodiad y gauaf, yr hyn a elwir yno, “Y Tymhor Gwlawog.”

It may be mentioned here that the general complaint in the summer in Australia is lack of water; but it pours down in abundance during the rains, for two or three months at the coming of winter, which is called there “The Rainy Season.”

Teithiasom lawer o filltiroedd oddiwrth y man lle glaniasom, heb weled na bwthyn bugeiliaid, na thyddyn-dŷ, nac un tŷ arall: ïe, heb weled na mab, na merch, o un math, ond ein gilydd. Dal at ddilyn yr hen ffordd a wnaethom, ac yn y man, gwelem nen tyddyn-dŷ, mewn pantle, yn ymddangos; ac wrth ddynesu at hwnw, gwelem hefyd afon loywaidd yn ymddylifo, gan seinio yn beraidd heibio i ochr y tŷ, a llawenhasom yn fawr; ac i lawr a ni, yn ein syched, fel anifeiliaid, a’n penau i’r afon, gan yfed hyd oni ein disychedwyd.

We travelled many miles from where we had landed, without seeing a shepherd’s hut, a farmhouse, nor any other building: in fact, without seeing man or woman of any sort but each other. We continued to follow the old road, and soon the roof of a farmhouse appeared from a hollow; as we approached it we saw also a clear stream flowing beside the house with a melodious sound, and we rejoiced; immediately we plunged our heads into the water like animals, drinking till our thirst was gone.

Cyn hir deuodd gwr y tyddyn heibio, a gofynodd o ba le y daethom; ninnau a attebasom mai diangc a wnaethom o long, gan enwi rhyw enw dyeithr. Yna efe a’n cymmerodd i’w dŷ, rhoddodd i ni ein gwala o fwyd, yng nghyda digon o fara a chig, i wneyd un pryd yn ychwaneg ar y daith. Nid oedd arnynt eisiau gweithwyr ar y tyddyn hwnw, ond bu’r bobl mor garedig a’n hyfforddi yn y dull a dybient hwy yn debycaf i ni allu cael gwaith mewn man arall.

Before long the farmer came along, and asked us from where we had come; we replied that we had escaped from a ship, giving some fanciful name. Then he took us into the house and gave us our fill of food, as well as enough bread and meat to make another meal on our journey. They had no need of workers on that farm, but the people were kind enough to instruct us as to how they thought it most likely we might get work elsewhere.

Yn mlaen a ni yn lled galonog, gan deithio amryw filltiroedd trwy goedwigoedd ac anialwch anghyfaneddol, a phob yn ronyn, gwelem fwthyn bugail, yn sefyll ar le agored a digoed: yr oedd gerllaw iddo bwll o ddwfr merfaidd a llawn penabyliaid.

On we went rather heartened, travelling several miles through forest and desolate wilderness, until we found a shepherd’s hut standing on an open, treeless patch: there was a pool of stagnant water full of tadpoles.

Wedi ein myned at ddrws y bwthyn, aethom i fewn iddo, a chymmerasom feddiant o hono, gan fwriadu aros yno noswaith o leiaf, o herwydd y dwfr. Edrychasom y bwthyn drwyddo yn fanwl, a chawsom ei fod yn llawer gwell na’n dysgwyliad. Nid oedd yn yr hen fwthyn ddodrefn i’w addurno, oddieithr i ni alw ychydig estyll wedi eu dodi wrth byst, fel lle dan wely yn ddodrefn, y rhai a gyfodwyd gan ryw ddwylaw dynol ychydig yn uwch na’i lawr, yn orweddle i’r bugail a fu yno yn y blynyddoedd gynt. Yr oeddym erbyn hyn yn dechreu rhyw falchïo, am fod genym dŷ bychan yn eiddom ein hunain, heb un i’n bygwth gyda na gwn, na threth, nag ardreth.

We went up to the door of the hut, entered, and took possession, intent on spending at least one night there, because of the water. We looked through the hut carefully, and found it to be much better than we expected. No furniture adorned the old place, but furniture is what we called a few planks fastened between posts, which some human hands had placed a little above the floor, to serve as resting-places for shepherds in years past. By now we were feeling rather proud, as we had our own little house, and no one to threaten us with gun, tax, or rent.

Deuodd y dydd i hwyrhau, a machlud haul i ymgyflymu; a chan ein bod yn sychedig eto, aethom at y pwll bob un am ddiod. Bu un o honom mor ffodus a chodi hen din oddiar y llawr, wrth ddyfod heibio i’r tŷ lle cawsom ymborth: ac yr oedd un arall wedi bod mor feddylgar a dwyn gydag ef dê o’r llong, i ddigoni am ddeudro neu dri: gan hyny, gwnaethom dân, llenwasom yr hen din gyda dwfr, berwasom hwnw, a chawsom dê ar hen lawr bwthyn bugail, heb, am a wyddem, greadur dynol yn agos attom. Y bara oedd brinaf, am nad oedd genym fwy na phryd go dda, ac am na wyddem pa bryd y caffem drigfan nesaf at gael ychwaneg. Gan hyny, barnwyd mai gwell ymfoddloni ar y bedwaredd ran o’r bara y tro hwn, rhag y deuai yn galetach ein cyflwr.

The day was coming to an end, and sunset fast approaching; and as we were thirsty again, we all went to the pool for a drink. One of us had been lucky enough to find an old tin on the ground as we left the house where we were given food: and another was thoughtful enough to bring two or three days’ worth of tea from the ship: so we made a fire, filled the old tin with water, boiled it, and had tea on the floor of the old shepherd’s hut, knowing there was not a human soul to see us. The bread was precious, as we had not enough for more than one modest meal, and did not know when we might find the next habitation to get more; so it was judged better to content ourselves with one quarter of the bread for the moment, in case our circumstances should worsen.

Ar ol bwyta, llanwodd rhai eu pibelli, a dechreuasant fygu myglys, a dechreuasom hefyd ganu yn Saesneg, nes yr oedd yr hen fwthyn yn llawn o fwg tobacco, a sain cân, yn y lle anghysbell hwnw. Gan fy mod yn lled flinedig, gorweddais i orphwyso ar yr estyll; ond cyn hir, er bwriadu o honom aros yno, gwaeddodd un mai gwell a fyddai cychwyn, a myned yn mlaen, i edrych a ddaethem ar draws rhyw dyddyn-dŷ cyn ei bod yn ormod o’r nos; felly, er i ni deimlo yn brudd wrth adael yr hen fwthyn, lle na bu neb arall, mae’n debyg, er ys tro hir, cydunasom mai myned ymaith oedd oreu; canys dyn byth nid yw, ond bob amser i fod yn gysurus ar ryw dro dyfodol.

After eating, some men filled their pipes and began to smoke, and we sang in English, until the old hut was full of tobacco smoke, and the sound of song, in that remote place. As I was rather tired, I lay down on a bench to sleep; but before long, in spite of our decision to stay there, one man declared it better for us to leave and continue to look for a farmhouse before it got too dark; so, though it saddened us to leave the old hut, where there had likely been no one else for a long time, we agreed it were best to go on; for one never is, but always will be, comfortable, at some future time.

Cefnasom ar y bwthyn gyda bwriad i ymdrechu am gael gafael ar dyddyn-dŷ y noswaith hono, i’r dyben o wneuthur ymgais dranoeth at waith i ennill cyflog. Wrth ein myned yn mlaen, daethom i le nad oedd i’w weled, y naill ffordd na’r llall, ond coed uchel yn ein hamgau i mewn; a chan deithio yn y modd hyn, byddem weithiau yn dringo tros fryniau, oddiar y rhai, trwy eu bod yn lled uchel, y gobeithiem am weled rhyw amaeth-dŷ neu gilydd, eithr yn gwbl ofer, am nad oedd o’n blaen, o’n hol, i’n dehau, nag i’n haswy i’w ganfod, namyn coed. Bob yn dipyn daethom i lwybr cul, wedi braidd ei orchuddio gyda gwyllt-wellt y ddaiar, yr hwn lwybr a ddilynasom, gan obeithio ein harweinid at annedd dynion. Gyda hyn, ymdaenai nos ei haden dros wyneb y wlad ddyeithr ac ëang, a ninnau yn cael trafferth fawr i graffu ar y llwybr; ac weithiau, ymgeingciai y llwybr at wahanol gyfeiriadau, a byddem felly yn ffaelu a dirnad pa un o dri neu bedwar cyfeiriad i’w gymmeryd, gan betruso, a gwrando ar ein gilydd yn adrodd ein gwahanol farnau; un a benderfynai mai y llwybr a nodai ef a fyddai debycaf o’n dwyn at dŷ, a’r ail, a’r trydydd, oeddynt lawn mor benderfynol am y rhai a nodent hwythau. Modd bynag, glynasom i ddilyn rhyw un, o’r diwedd, am filltiroedd, ond ni chafwyd un tŷ ar hyd y nos hono; canys arweiniodd y llwybr ni allan o’r coed i ben bryn uchel, a chan ei bod rhwng deg ac unarddeg o’r gloch, a ninnau yn dra blinedig, tybiasom mai’r goreu i ni oedd gorwedd i orphwys, a huno hyd i doriad y wawr, heb well gwely na’r ddaiar îs gortho yr awyr agored, gan ddechreu teimlo, cyn y cysgu, ein bai yn gadael yr hen fwthyn, oblegid yr oedd yn hwnw wyth bastwn wedi eu curo a’u penau i’r llawr, ac estyll wedi eu hoelio rhwng pob pedwar post i gynnal gwely, chwareu teg iddo; ond yr oeddym wedi ei adael.

We turned our backs on the hut with the intention of gaining a farmhouse that very night, in order to try for work and wages. As it turned out, we saw nothing as we walked on but tall trees surrounding us on all sides. Travelling in this way, we sometimes found ourselves climbing fairly tall hills from which we hoped to spy some dwelling or other, but all in vain: before us and behind us, to our right and to our left, there was nothing to be seen but trees. In time we came across a narrow path, half covered with the weeds of the earth, and followed it, hoping it would lead us to human habitation. By now night was spreading its wings over the face of that vast and strange country, and we had great difficulty in discerning the path; and sometimes it branched in three or four different directions, and we would be at a loss which to take, hesitating, and listening to each other’s various opinions. One man would be certain that the path he had marked would be most likely to lead us to a house, while the second, and the third, would be just as sure of their choices. In the end though, we chose to stick to one path for miles, but we found no house at all that night; since the path led us out of the forest to the top of a tall hill, and as it was between ten and eleven o’clock, and we were very tired, we thought it best to lie down and sleep till the dawn, on no better bed than the earth under the canopy of the open sky; and we began to perceive, before we slept, our mistake in leaving the old hut, for at least there we had eight strong posts with four planks for beds nailed up between them; but we had left it.

Bellach, nid oedd genym ond syrthio ar y ddaiar, a buan y clywid rhai yn chwyrnu cysgu, ac nid hir amser a aeth heibio nad cysgu a wnaethom oll, hyd i bedwar o’r gloch y boreu; ar y pryd hyny, clywid yr ail îs-lywydd yn gwaeddi, fel pe yn y llong, “Watch o hoi, watch o hoi! Trowch allan yna!” a hyny gyda nerth esgyrn ei ben, chwedl pobl: gyda hyny, dyna ni yn ymddadebru, gan fwngial, ac ysgrytian, a chyfodi ar ein traed, un yn cwyno gan ei ysgwydd, yr ail gan ei freichiau, y trydydd gan ei glun, a phob copa o honom gan rhyw fan neu gilydd o’n cyrph yn ddolurus, cydrhwng blinder trwy gerdded, ac effaith gorwedd ar y ddaiar noeth i gysgu.

Now we could do nothing but fall to the ground, and soon several men could be heard snoring, and it was not long before we all slept, until four o’clock in the morning. At that hour we heard the second mate crying, as if aboard the ship, “Watch ahoy, watch ahoy! Turn out then!” and this at the top of his voice,1 as people say. This found us coming to life, muttering and shivering, and rising to our feet, one complaining of his shoulder, another of his arms, and still another of his knee, and every man of us sore in one part of his body or another, from our lengthy walk and the effect of lying on the bare earth to sleep.

Wedi cyfodi, ac edrych o’n hamgylch, a’r wawr wedi agor ei llygad ar y cwrr hwnw o’r byd, gwelem fwthyn bugail, a’i fŵg yn cyflym ymgyrchu ar ei esgynfa, yn arwyddo bod yno rywun byw ac ar ei draed o’i gysgle. Ato yr aethom, gan ddysgwyl y cawsem ymborth. Pan yn agosau at yr adeilad, daeth bugail mawr ac esgyrnog allan, yr hwn a gyfarchasom gyda “Boreu da i chwi,” ac yntau a’n hattebodd gyda’r unrhyw eiriau. Deallasom wrth ei leferydd mai Albanwr oedd, a chan mai Albanwr oedd ein hail îs-lywydd hefyd, calonogwyd ni a hyder. Felly ar ol ini adrodd ychydig o’n helynt, gofynasom i’r bugail am ddiod i ddechreu, a dysgwyl iddo ef gynnyg ini, ymborth; aeth i mewn i’w fwthyn, dygodd atom ddwfr glân, a thra ni yn yfed hwnw, dywedodd fod ganddo amryw blant, nad oedd ei feistr yn rhoddi bwyd heblaw iddo ei hun a’i wraig, ac mai ar eu gweddill hwynt eu dau y bywiai’r plant, ond pe yn amgen, mai hyfryd a fuasai ganddo allu rhoddi ychydig luniaeth ini; oherwydd hyny, ychwanegodd, nas gallai ef roddi dim heb wneuthur cam a’i blant bychain.

Having risen and looked about us, and the dawn having opened its eye on our corner of the world, we spied a shepherd’s hut, with smoke rising thickly from it, indicating the presence of a living, waking person. We approached the hut, expecting to get some food. A very large, bony man came out to meet us, whom we greeted with a “Good morning to you,” and who answered with similar words. From his speech we understood him to be a Scotsman, and as our second mate was also a Scot, we felt encouraged. So we told him of our troubles, and asked for something to drink, hoping for some food as well; he retreated into his hut and returned with fresh water for us, and as we drank, he told us that he had several children, and that his master provided only enough food for his wife and himself, the children subsisting on what surplus the couple could spare. Were matters otherwise he should be glad to feed us, but, as he said, he could part with nothing without depriving his little ones.

Gan i’r bugail ein rhagflaenu yn y modd yma, deallasom mai oferedd a fuasai gofyn bwyd; ac yn ein siomedigaeth, holasom am y ffordd debycaf i allu cyfeirio at dyddyn ammaethwr i ofyn gwaith. Atebodd mai dwy flynedd y bu efe yno, nad oedd ef, gan hyny, yn adnabyddus a’r wlad, ond iddo glywed y bod tyddyn o fewn chwech neu saith milltir i’r bwthyn, gan bwyntio a’i law at y cyfeiriad yr hyfforddai ef i ni ei gymeryd.

Thus warned, we gave up our hopes; and in our disappointment, we asked him how best to find a farm where we could seek work. He replied that he had only been there for two years, and so was unfamiliar with the country; but he had heard of a farm within six or seven miles of his cottage. He pointed us in the direction he recommended.

Bwthod y bugeiliaid yn Australia, yng nghydâ’r dïadellau, ydynt hynod o bell oddiwrth y tyddynod i’r rhai y perthynant, ac yn mhell hefyd oddiwrth eu gilydd, a dyna fel yr oedd gydâ’r bugail Albanaidd hwn, gan fyw, ef a’i brïod, gyda’u plant megys meudwyod, heb gyfeillach namyn defaid.

The shepherds’ huts in Australia, and their flocks as well, are a very long way from the farms to which they belong, and distant also from each other, and so this Scottish shepherd, and his wife and children, lived like hermits, their only companions the sheep.

Cychwynasom drachefn; a chan ystyried fod chwech yn ormod rhifedi gydâ’u gilydd, at ofyn na bwyd na gwaith, taflodd un ddarn arian i fyny, gael i arall ddewis un o’i ddwy ochr cyn iddo ddisgyn, a’r un a ennillodd a ddewisodd ei ddau a’i ffordd; yna ysgydwasom ddwylaw, gan ganu’n iach a’n gilydd, ac ymwahanasom i fyned bob yn dri; a daeth ar ran yr îs-lywydd, un Jack, a minnau i gyfeirio at y tyddyn a grybwyllwyd gan y bugail.

Again we set off; and as it seemed to us now that six together were too many to go asking for food and work, one man threw up a coin, and let another choose a side before the coin fell. The winner chose two companions and a direction to take; then we shook hands and wished each other well, our two parties going our separate ways. It fell to the [second] mate, one Jack, and myself to strike out in the direction of the farmhouse mentioned by the shepherd.

Nyni ein tri, gan ymadael a’r tri eraill o’n cydforwyr, a aethom oddiwrth y bryn i ganol y goedwig yn ol; gadawsom o’r neilldu y llwybr a gerddasom y nos flaenorol a cherddasom i’r cyfeiriad a grybwyllais. Pan wedi cerdded o chwech i saith milltir, cyfarfwyddwyd ni gan fugail y tyddyn a soniwyd am dano, yr hwn, wedi ychydig ymddyddan, a ddywedodd nad oedd ganddo amheuaeth na byddai i ni gael gwaith yn y tyddyn y perthynai ef iddo, am ei bod yn amser cynhauaf; yr hyn a’n llawenychodd yn fawr a rhoddodd yn yr ail îs-lywydd, ac yn Jack, ddigon o wroldeb i ofyn yr hen fugail am ychydig tobacco.

And now the three of us, having left our fellow sailors behind, were back in the forest, departing from the path we had trod the night before and taking our new direction. After walking six or seven miles, we met the shepherd from the farm we were told about, who, after some conversation, said he had no doubt there would be work for us there, it being harvest season. This cheered us greatly and made the second mate and Jack bold enough to ask the old shepherd for some tobacco.





1   In Welsh: “with the strength of the bones of his head.



Home        Contents        Previous        Next

The content of this page,
and of the entire "Old Welsh Books with English Translations" website
is, save where prior right apply,
Copyright © John Bear.