|
|
|
|
O’r diwedd, ar foregwaith hynodol o hyfryd, daethom i olwg Port Philip; ac yn fuan wedi i ni fyned heibio y tŷ goleuni, yr hwn sydd ar y llaw aswy i’r fynedfa i mewn, gollyngasom yr angor i lawr i aros y llong hwyliwr, a elwir pilot, attom, yr hwn a fu ddeuddydd heb ddyfod. |
Finally, on a splendid morning, we came in sight of Port Phillip; and soon after passing the lighthouse, which is on the port side of the passage in, we dropped anchor to wait for the pilot, which was two days coming. |
|
Modd bynag, yr un diwrnod ag y dodwyd i lawr yr angor edrychasom o’n hamgylch; yr hîn oedd deg a hyfryd, a gwelem fod yr ydau yn doreithiog, y dyffrynoedd yn addurnedig gan dlysau prydferth natur, yr awel yn iachus, yr wybren yn laswawr, yr adar yn peroriaethu, a holl anian yn gwenu. Yr oedd yr olwg yn ddymunol i’w rhyfeddu, a swynwyd y cadben a’r meddyg i ymweled a’r làn am dro. |
But on the same morning we let the anchor down, we looked about us; the weather was fine and pleasant, and we could see that the corn was abundant, the valleys adorned with the jewels of nature, the breeze salutary, the sky blue, the birds in chorus, and all of nature smiling. The sight was wonderful to behold, and the captain and the doctor were enticed to visit the shore for a walk. |
|
Gollyngwyd bâd i’r dwfr, ac i lawr a’r cadben a’r meddyg iddo, gan gymmeryd gyda hwynt y digrifweis penaf yn y llong i rwyfo iddynt; sef, yr hen eilliwr, yr hwn a barodd i wynebau deimlo ei ddarn cryman: Neptune, yr un a wthiodd y wrych-ysgubell, yn llawn pŷg seimlyd, i safnau y rhai a eilliwyd ar linell y cyhydedd; y pŷg-drwythwr hefyd, ac un o’r prentisiaid; ac ymaith â hwynt. |
A boat was lowered into the water, and the captain and the doctor followed, taking with them the chief clowns on the ship to row for them; that is, the old shaver, who had made faces feel his sickle-blade; “Neptune”, the one who had thrust the brushful of greasy pitch into the mouths of those shaved at the equator; and the pitch-latherer, as well as one of the apprentices; and off they went. |
|
Dychwelodd y cadben, a’r pedwar morwyr yn ol gyda’r nos, gan adael y meddyg ar y lân, dan addewid dychwelyd atto cyn hir. Felly, wedi bwytta o’r dynion eu swpper, ac yntau’r cadben wedi cael eu neges, sef, ychydig gostrelau o’r Calondid meddwol, ymddangosai pob peth yn eithaf boddhaol. |
The captain and the four sailors returned in the evening, having left the doctor behind, promising to come back for him as soon as they could. So, after the men had eaten their supper, and the captain himself had got their message, that is, a few bottles of the intoxicating Courage, all seemed quite content. |
|
Gan na welai y cadben un arwydd debyg i ddynion am ddiangc yn y pedwar morwr a fuont gydag ef ar y lan, efe a gredodd na ddiangent hwy ddim pe eu cymmerid eilwaith gydag ef: ond ychydig a wyddai eu bod y pryd hyny yn brysur wrth y gorchwyl o ddodi eu dillad i’w cadw dan ofal rhai o’r ymfudwyr. Y cadben, yn niogelwch ei dybiaeth, a aeth i’r làn eilwaith, a’r unrhyw bedwar gydag ef, gyda’r bwriad o gyflawni ei air i’r meddyg. |
Since the captain had seen no sign of a desire to abscond among the men who accompanied him ashore, he believed it would be safe to take them with him again: but little did he know that at that very moment they were busy secreting their clothes into the care of some emigrants. The captain, secure in his supposition, went ashore again with the same four men, intending to make good his word to the doctor. |
|
Rhwng y tri a phedwar o’r gloch y boreu, a minnau ar y wyliadwriaeth, pwy a welwn yn y cwch, ac yn dyfod i mewn i’r llong, ond yr hen gadben, wrth ei hunan, gan edrych yn hynod o lipa: a deallais fod y meddyg wedi myned i wely ar y làn; ac i’r cadben, rhwng ofn a gobaith, hir ddysgwyl yn bryderus am ddychweliad y pedwar rhwyfwyr, ond y cwbl yn ofer; ac ni ddychwelodd neb o honynt byth mwy i’r llong. |
Between three and four o’clock in the morning, I was on the watch when whom should I see in the boat, coming into the ship, but the captain, alone, looking quite deflated: and I realized the doctor had gone to bed on shore, while the captain, caught between fear and hope, had waited long and anxiously for the return of the four oarsmen, but all in vain; and not one of them ever returned to the ship. |
|
Ni siaradodd y cadben nemawr y pryd hyny, heblaw gofyn am ddillad y pedwar morwr, a minnau, ar gais yr îs-lywydd, a aethym i’w cyrchu ato o’r pen blaen; eithr wedi fy myned yno, nid oedd na dillad na chistiau, y buasai neb yn ei bwyll yn rhoddi swllt am eu cael. Modd bynag, er boddlonrwydd i’r cadben, ac i’r îs-lywydd, myfi a ddygais attynt ddwy o’r cistiau fel yr oeddynt: a’r olwg arnynt ydoedd ddigon i wneyd i undyn ymdori gan chwerthin. Daliais gist wâg yn y naill law, a’i chauad yn y llall, a gallaswn yn rhwydd wneuthur tabwrdd a thympan o honynt. |
The captain said nothing at that time, save to ask for the four sailors’ clothes. The first mate asked me to fetch them for him from the bow; but when I got there, there were neither clothes nor chests that any one in his senses would give a shilling to have. Nonetheless, to satisfy the captain and the first mate, I brought them two of the chests as they were: and the sight of them was enough to make any man burst out laughing. I held an empty chest in one hand, and the lid in the other, and I could easily have made a drum and tambourine of them. |
|
Yn fuan wedi hynyna o dro, cyfodasom angor, a mordwyasom i Geelong, yr hwn le a gyrhaeddasom oddeutu wythnos cyn y Nadolig, ac angorasom o fewn pedair milldir i’r dref. Deuodd yno attom gychaid o heddgeidwaid, a elwir water police, a holasant y cadben mewn perthynas i ddwylaw y llong, gan ofyn a oeddynt hwy oll ar y bwrdd. Dywedodd y cadben fod pedwar wedi diangc pan ddaethom i Port Philip; ac wedi clywed hyn, darfu iddynt aros yn y llong ddeuddydd a dwy noswaith, i gadw gwyliadwriaeth ar hyny ag oedd o honom i mewn. Gan iddi ddyfod i chwythu yn drwm, ymadawodd y gwylwyr, a thybiasant yn sicr na buasai i neb geisio diangc ar y fath dywydd. Eithr nid hir y bu nad oedd y dymhestl wedi myned heibio; a daeth y cadben, gan orchymyn i ni dynu trawslath yr hwyl isaf ond un ar yr ail hwylbren, o herwydd ei hysigo gynt, a dywedodd am i ni wneuthur pob peth yn barod i hwylio am Callao, oblegid na fwriadai aros, eb efe, nemawr yn hwy o amser na’r hyn a fyddai angenrheidiol i anfon yr holl ymfudwyr i dir. |
Soon after this incident we raised anchor, and sailed for Geelong, which place we reached about a fortnight before Christmas, casting anchor within four miles of the town. There we received a visit from a boat full of men known as the water police, who questioned the captain in relation to the crew, asking whether all hands were on board. The captain told them that four men had run off when we got to Port Phillip; and hearing this, they stayed on our ship for two days and two nights, keeping watch on those of us who remained. When the wind began to blow hard, the watchers departed, thinking no one would try to abscond in such weather. But it was not long before the storm had passed; and the captain appeared, ordering us to remove a damaged spar from the lowest sail but one on the mast, and to make preparations to sail for Callao, as he had, he said, no intention of staying any longer than was necessary to deliver the emigrants to land. |
|
Wedi rhoddi i ni ddigon i’w wneuthur, gollyngwyd bâd i lawr, a rhwng deg ac un-ar-ddeg o’r gloch, y boreu, aeth y cadben i’r làn, heb gymmeryd gydag ef i rwyfo, ond y rhai a weithiasant am eu trosglwyddiad, ac un prentis. |
The crew having been given plenty to do, a boat was let down, and between ten and eleven in the morning the captain left for shore, taking with him as oarsmen only those who had worked their passage, and one apprentice. |
|
Ni weithiasom nemawr wedi myned ein llywydd i dir, heblaw cydymgynghori am y modd tebycaf o fod yn llwyddiannus i gael yn rhydd o’r llong: weithiau bwriadem ddwyn cyhuddiad yn ei erbyn, iddo yng nghalondid ei feddwdod lenwi y gwn, a’r llaw-ddrylliau, a bygwth saethu y cyntaf a feddyliai ef yr edrychai yn hyll atto, pan ar ein mordaith; ond ofnem, trwy wneuthur felly, na wrandawai’r ynadon arnom yn ei gyhuddo, ac y bwrient hwy ni yng ngharchar, hyd amser ymadawiad y llong, ac yna ein hanfon i mewn yn ol. Gan hyny, nid oedd genym un ffordd yn ymddangos mor debyg o lwyddo, a’r ffordd o gymmeryd y bâd, pan y caffem gyfleustra, a diangc ymaith, deued a ddelo. |
We did no further work after the captain’s departure, save to confer together on the best way to get safely free of the ship: for a time, we intended to bring charges against him for his conduct on the voyage, for loading the gun in his pot valour, and the pistols, and threatening to shoot the first man he supposed to be giving him an ugly look; but we feared the judges would not listen to our accusations, and we should be thrown into prison until the ship sailed, and then put back on board. Thus no course seemed to us as likely to succeed as that of taking the boat, when the opportunity arose, and escaping, come what may. |
|
Ychydig cyn yr hwyr, y dydd hwnw, dychwelodd y cadben a dechreuodd ddyfetha gwnlwch, gan geisio ein rhagrybuddio, trwy ergydio, o’r hyn a allasem ei ddysgwyl, os nyni a feiddiem geisio diangc. Gan iddo ef gerdded, y noswaith honno, yn ol ac yn mlaen, ar ran ol y llong, a llaw-ddryll yn ei afael, nid oedd o un lles i ni feddwl diangc, er cymmaint ein hawydd i ffoi. A ni yn gwybod na allasai’r cadben, mwy na dyn arall, barhau i aros heb gysgu, yr oeddem yn gweled ein llwybr diangc yn eithaf amlwg, yn y sicrwydd y byddai iddo ef gysgu yn drymach, ar ol dechreu, nag a wnaethai pe wedi bod yn ei wely y noswaith hon; ac felly, yn y rhagwelediad hwn, treuliasom y nos yn dawel. |
Shortly before evening that day, the captain returned and began wasting gunpowder, firing a pistol to warn us of what we could expect should we dare attempt an escape. As he paced back and forth at the stern of the ship that night, pistol in hand, there was no use in trying to escape, however great our desire to flee. Knowing that the captain, as any other man, could not go without sleep indefinitely, we saw our path to freedom very clearly, in the certainty that he would sleep all the more heavily, once having started, than if he had spent this night in his bed; and so, in this expectation, we spent the night in peace. |
|
Yr ail noswaith a ddaeth, a’r hen gadben yn fwy ei ofn nag a oedd y nos flaenorol, am y gwelai ef y morwyr yn siarad llawer a’u gilydd; ac er cymmaint ei ludded, trwy lyncu Calondid ei gostrel, a bod trwy y nos o’r blaen heb gysgu, efe a gadwodd wyliadwriaeth arnom hyd i rhwng tri a phedwar o’r gloch y boreu. Oddeutu yr awr honno, gofynodd y cadben i’r ail îs-lywydd gadw gwyliadwriaeth, tra y byddai ef yn myned i lawr a huno ychydig yn ei ddillad; canys yr oedd trwmgwsg wedi ei ddal, ac ni feddyliodd ef ychwaith y buasai i’r swyddog hwnw ymuno a ffoi gyda’r dynion. Felly, efe a orchymynodd i’r ail îs-lywydd alw arno ef, os gwelai un argoel diangc; ac attebodd hwnw, y gallai gysgu yn esmwyth gyda golwg ar hyny, gan gymmeryd ei air, ac ymddiried ynddo. Gwedi hyny o siarad, i lawr a’r cadben i gysgu ychydig, ac i adfywio ei hen gorphyn blinedig. |
The second night saw the old captain more afraid than the night before, after he had seen the sailors engaged in frequent conversation with each other; and despite his great weariness, from drinking his Courage from the bottle, and having spent the previous night awake, he kept watch on us till between three and four o’clock in the morning. About that hour, the captain asked the second mate to keep watch, while he went down for a nap in his clothes, because a great sleepiness had overtaken him, and he did not think his fellow officer would join with the men in escaping. He ordered the second mate to call him if he should see any sign of flight, and the second mate replied that he could be relied on in that regard, and the captain should sleep at ease. Having heard this, the captain was off for a little sleep to revive his tired old body. |
|
Wedi myned y cadben i orphwys, dododd y gwyliwr newydd esgidiau trymion am ei draed, a cherddodd yn ol ac yn mlaen, gan drystio uwch ben y cysgadur, at gael allan maint y trwst a allai ef oddef heb ddeffroi: ond er iddo dyrddu megys gwallgof-ddyn, cysgu a chwyrnu yr oedd y cadben, fel organ byrdon, heb un arwydd o fod y godwrdd yn cael dim effaith ar ei glyw. |
As soon as the captain was gone, the new watch put a pair of heavy boots on, and walked back and forth, making much noise, in order to find out how much the sleeper could bear without waking: but though he thundered like a madman, the captain slept on, snoring like a chorus organ, with no sign that the din had any effect on his hearing. |
|
Yr oedd cwch, wedi ei gyfodi’n uchel o’r dwfr, ar un ochr i ran ol y llong, gyferbyn a’r caban, lle cysgai y cadben, a rhaff yn ei ddau ben i’w rwymo wrth y llong, a chlo gyda hyny. Pan welodd yr ail îs-lywydd ei gyfleustra, efe a dorodd y clo, a rhedodd yn llawen i’r pen blaen y llong i alw ar y morwyr, gan eu hysbysu nad oedd un perygl i’r hen gadben ddeffroi. Ar hyny, neidiodd y morwyr o’u gwelyau yn ddi-attreg; a chan fod un, fel fy hunan, yn dysgwyl am y cyfleustra hwn, nid oeddem wedi tynu oddi am danom; a thrwy hyny gallasom fyned i’r cwch, yn uniongyrchol, i’w ragbarotoi, tra byddai y lleill yn rhoddi ychydig ddillad am danynt. |
There was a boat raised high over the water, at one side of the stern, opposite the captain’s cabin, tied to the ship at both ends by a rope with a lock. Seeing his chance, the second mate broke the lock, and ran delightedly to the bow to call the sailors, telling them there was no danger of the old captain waking. At that, the sailors leapt instantly from their beds; and as one of them, like myself, had been expecting this opportunity, we had not undressed; and so we were able to reach the boat straight away, and to begin preparing it, while the others were putting on some clothes. |
|
Pan oeddem wedi gwneuthur pob peth yn barod, fel y tybiem, fy nghyd-forwr yn mhen blaen y cwch, a minnau yn y pen arall, a phob un yn gafael yn ei raff, i ddal y cwch i fyny, deuodd y morwyr attom, gan gerdded yn nhraed eu hosanau, o un i un; a thra fy nghydymaith a minnau yn barod i ollwng y cwch i lawr, a rhai eraill yn trefnu y rhwyfau, safai Gwyddel mawr, a darn o bastwn cryf yn ei law, wrth ddrws y caban, rhag y deuai neb i fyny. |
When all was ready, as we supposed, my fellow sailor at the front end of the boat, myself at the other, and each of us holding his rope to keep the boat up, the other sailors arrived one by one in their stocking-feet; and as we waited to lower the boat while others shipped the oars, a big Irishman, armed with a great club, stood at the door of the cabin lest any one come up. |
|
Yn awr, a ni ar gychwyn, neidiodd y Gwyddel, yn bedwar aelod a phen, ar unwaith i’r cwch, gan ddywedyd, “I lawr a’r bâd, i lawr a’r bâd:” gyda’r gair, “i lawr a’r bâd,” gollyngais y pen ol ar darawiad amrant, ond trwy ryw ddryglam neu gilydd, dyrysodd y rhaff y pen blaen; a chan fod y llong yn ysgafn, ac uchel o’r dwfr, yr oedd pen blaen y cwch yn cyfeirio at yr wybren yn unionsyth, a’r pen ol at yr heli. Nid oedd i’w wneyd yn awr ond dal ein gafael yn ochrau y cwch, a thori y rhaff flaen gyda chyllell. Pan dorwyd y rhaff, a’r codwm yn fawr, a naw o honom o fewn y cwch, disgynodd i’r dwfr gyda thwrf taranog, a chrynodd y llong drwyddi. |
Then, on the point of our departure, the Irishman at once leapt bodily into the boat, saying “Down with the boat, down with the boat.” With that I released the rear of the boat in the twinkling of an eye, but through some mischance or other the rope tangled about the bow; and the ship being light and sitting high out of the water, the boat pointed straight up at the sky, with its tail hanging down over the water. There was nothing for it but to take hold of the sides and cut the tangled rope with a knife. It was a long drop, with nine of us in the boat, and the boat hit the water with a great clap, thoroughly shaking the ship. |
|
Wedi i ni rwyfo ychydig wrhydau oddiwrth y llestr, pwy a ddaeth i fyny ar y bwrdd ond y cadben, wedi ei ysgwyd allan o’i gwsg, gan dwrf y bâd yn disgyn, a dechreuodd waeddi, “Deuwch yn ol!” Nyni a droesom glust fyddar at ei lef, oddieithr y Gwyddel; canys cyfododd ef ar ei draed, gan dalu diolchgarwch yn wresog i’r cadben am ei drosglwyddo i wlad y mŵn melyn. Rhedodd y cadben i’r caban, a daeth i fyny drachefn, gyda’i wn yn ei law, gan fygwth tanio arnom; a gwaeddasom ninnau yn groch y pryd hyny, gan ei hysbysu, os efe a daniai arnom, gan wneuthur niwed i neb o honom, y dychwelem yn ol ac y dieneidiem ef. Ar hyn digalonodd y cadben, a dododd ei wn i lawr; a ninnau a rwyfasom, nerth ein breichiau, rhyngom a Melbourne, am oddeutu tair neu bedair milltir oddiwrth y llong, a glaniasom yn llwyddiannus, o flaen pawb o’r ymfudwyr. |
After we had rowed a few fathoms from the vessel, who should appear on deck but the captain, jolted from his sleep by the noise and shouting, “Come back!” We all of us turned a deaf ear to his cries, but for the Irishman, who rose to his feet to express warm thanks to the captain for his transport to the land of the golden ore. The latter vanished back down to his cabin, then re-emerged bearing his pistol and threatening to fire on us. We in return loudly pledged to repay him mortally, should he harm any of us, whereupon he lowered his weapon, leaving us to row as fast as we could towards Melbourne, three or four miles from the ship, and to make successful landing in sight of all the emigrants. |
|
Wedi cyrhaedd o honom y tir yn ddiogel, a rhwymo’r cwch, a’i sicrhau wrth foncyff o bren, rhaid oedd bellach penderfynu cerdded, a hyny gyflymaf a allom, rhag y deuai’r hedd-geidwaid marchogol, a elwir horse police, ar ein hol, i’n dal a’n dwyn yn garcharorion. Yr oedd yr hîn yn dra gwresog, a cherdded o ganlyniad yn orchwyl sychedig; eithr dygasom gyda ni, o’r llong, farilan fechan at ddal dwfr i’w yfed pan ei cawsem. Cyn hir, gwelem wrth làn y môr, ychydig ffordd oddiwrthym, ryw fwthyn bychan; ac aeth tri o honom tuag ato, gyda’r farilan, i ofyn ei llonaid o ddwfr, tra ninnau y chwech eraill yn teithio’n mlaen, gan dybied y goddiweddent hwy ni ar fyrder. |
Having made land safely and secured the boat on a stump of wood, we were forced to set ourselves walking as fast as we could, lest the horse police come after us, to capture us and cast us in prison. The weather was very warm, and the walking as a consequence was thirsty work; but we had brought with us from the ship a small cask to hold drinking water when we found it. Before long we spied on the shore, a little away from us, a small hut; and three of our number approached, hoping to have the cask filled with water, while the rest of us walked on, thinking the three would soon catch us up. |
|
Dull y tir, yn y rhan hon o’r wlad bellenig, sydd ddarn debyg i dònau chwyddfawrion y môr ar dymhestl, yn fryniau a phantiau anwastad neillduol; a thrwy fynych esgyn i’r naill, a disgyn i’r llall, yn mysg mân goedydd, y canlyniad a fu i ni golli y tri morwyr a’r farilan, a bu i ni fod fisoedd heb eu gweled drachefn. |
The land in this part of that remote country is a bit like the great swells in a stormy sea, exceptionally uneven with hills and hollows; and between going up the one and down the other so often, among many small thickets, we lost the three sailors and the cask, and months went by without us seeing them again. |