Free Web Hosting by Netfirms
Web Hosting by Netfirms | Free Domain Names by Netfirms


The content of this page,
and of the entire "Old Welsh Books with English Translations" website
is, save where prior right apply,
Copyright © John Bear.



Home        Contents        Previous        Next



RHAGYMADRODD.


AT Y CYHOEDDWR.

Syr,—

Bwriais olwg dros y prawf-leni o’r ‘Robinson Crusoe Cymreig’ a anfonasoch i mi, a gallaf ddyweyd i mi gael llawer o hyfrydwch wrth eu darllen, a diau genyf y rhydd darlleniad hanes tra dyddorol y ‘Robinson Crusoe Cymreig’ hyfrydwch ac addysg fuddiol i laweroedd o’m cyd-genedl; ac yn enwedig yr ieuainc. Y mae drych bywyd yr aur-ymgeiswyr yn Australia a geir ynddo yn hynod o ddyddorol; a da fyddai i bob gwr ieuanc a deimla ar ei galon ymfudo i’r wlad bell hono, ddarllen ac ystyried yr hyn a ddywed ein Robinson Cymreig am dani.


INTRODUCTION.


TO THE PUBLISHER.

Sir,—

I have cast an eye over the proof-sheets of ‘A Welsh Robinson Crusoe’ which you sent me, and I can say I derived a great deal of pleasure from them, and do not doubt that reading this most interesting account of the ‘Welsh Robinson Crusoe’ will provide pleasure and profitable instruction to numbers of my countrymen; and especially to the young. The portrait of the life of gold-diggers in Australia to be found in it is a very interesting one; and it would be well for every young man who feels disposed to emigrate to that distant land to read and consider what our Welsh Robinson has to say of it.

Y mae llawer iawn o’r natur ddynol, fel y mae yn dyfod i’r golwg yn ei gwahanol ddelweddau, mewn gwahanol bersonau, ac yn wyneb gwahanol amgylchiadau, i’w canfod yn yr hanes, yr hwn a adroddir mewn dull naturiol a syml. Swynir y darllenydd yn mlaen o’i fodd, wedi iddo unwaith ddechreu ar y gwaith o’i ddarllen. Coron y cwbl ydyw gwaith Rhagluniaeth a gras Dwyfol yn arwain y gwr ieuanc hwn o amgylch trwy luoedd o beryglon a themtasiynau i wneuthur daioni iddo yn y diwedd.

A great deal of human nature, as it appears in its various guises in different people, and in the face of different circumstances, is to be found in the account, which is natural and simple in expression. Once the work of reading it is begun, one is willingly lured onward. The whole is crowned by the work of Providence and Divine grace in guiding this young man through manifold perils and temptations to his profit in the end.

Y mae hanes ei argyhoeddiad o bechod, a’i ddychweliad at Dduw yn Nghrist, yn hynod o effeithiol.

The story of his conviction of sin, and his conversion to God in Christ, is remarkably powerful.

Yr wyf yn calonog gymeradwyo eich gwaith yn cyhoeddi yr hanes hwn, gan hyderu y caiff lawer iawn o ddarllenwyr, ac y gwna lawer iawn o les.

Anwyl Syr, &c.,
W. Rees.
Liverpool, Medi 26, 1857.


I heartily commend your work in publishing this account, and am confident that it will find very many readers, and do a great deal of good.

Dear Sir, &c.,
W. Rees.
Liverpool, September 26, 1857.


At y llythyr blaenorol oddiwrth y Gweinidog enwog a’r beirniad galluog a’i hysgrifenodd, dymunai y Cyhoeddwr ychwanegu ychydig eiriau o berthynas i’r llyfr. Dewiswyd yr enw o ‘Robinson Crusoe Cymreig’ arno, oblegyd ei fod yn hanes mordaith, yn terfynu mewn trigianniad mewn ynys bell, yn mysg coedwigoedd ac unigrwydd gwyllt natur, ac yn hanes helyntion ereill, nid y lleiaf o ba rai yw dychweliad yr awdwr oddiwrth ei ofer ymarweddiad. Mae y llyfr Seisoneg yn tebygu mewn llawer o bethau iddo, ond gyda hyn o anfantais fod hwnw yn ddarluniad dychymygol a hwn yn wirioneddol. Mae y dull bywiog a darluniadol o adrodd yr hanes a fabwysiadwyd o duedd i greu y fath ddyddordeb yn ei ddarlleniad fel y disgwylir y bydd yn foddion i feithrin chwaeth at lyfrau cyffelyb. Mae llyfrau teithiol ac anturiaethol yn flasus a gwerthadwy, er yn fynych yn ddrudfawr yn yr iaith Seisoneg, ond yn dra phrinion yn yr eiddom ni.

To the foregoing letter from the famous Minister and able critic who wrote it, the Publisher would like to add a few words in relation to the book. The title ‘A Welsh Robinson Crusoe’ was chosen for it because it is an account of a voyage which ends in residence on a distant island, amidst the forests and the wild solitude of nature, and an account of other adventures, not the least of which is the conversion of the author from his prodigal ways. The English book is similar in many respects, but with the disadvantage that it is an imaginary depiction, while the present work is factual. The vivid and lively style adopted in the account is likely to create such an interest in reading it that it becomes a means to nurture a taste for similar books. Books of travel and adventure are engaging and saleable, though often expensive in English, and very scarce in our own tongue.

Nid yw yr awdwr ond Morwr ieuanc, heb ddim hawl i’r cymeriad ysgoleigaidd, na dim cynefinder ag ysgrifenu llyfrau. Ymddengys iddo gymeryd ei ysgrifell oddiar yr egwyddor hono a esyd Coleridge i lawr yn rhywfan, fel rheol anffaeledig i ysgrifenu llyfr newydd dyddorol—sef ysgrifenu yn syml ddarluniad o’r pethau a welodd ac a deimlodd. Trwy yr anfantais o ysgrifenu heb ddim nodiadau blaenorol, ac yn mhen yspaid o ddwy neu dair blynedd wedi y daith, gyda’r amcan i esmwythau amser o nychdod a gwaelni, yn yr hwn y pery yr awdwr hyd etto;—diangodd ambell wall dibwys i mewn, o ddiffyg cof a gwylied.

The author is but a young Sailor, with no claim to scholarship, nor acquaintance with the writing of books. He appears to have wielded his pen on the principle set down by Coleridge somewhere, as an infallible rule for writing new and interesting books—that one should write a simple description of the things one has seen and felt. Owing to the disadvantage of writing with no prior notes, and in the space of two or three years after the voyage, with the aim of alleviating a period of illness and infirmity in which the author remains to the present, the occasional minor error has crept in for want of vigilance and recollection.

Darlunia’r awdwr mewn un ddalen olygfa swynol ar y wlad—gan nodi, yn mysg dymunolion ereill yr adar cerddber yn pyncio. Mae hyny i raddau yn gamsyniad, gan nad ydyw yr adar yn Australia yn peroriaethu’r llwyni fel yn ein gwlad ni. Pe gelwid am argraffiad newydd o’r llyfr gellid diwygio hyny ac ambell goll geiriadol arall. Ond wedi y cwbl, ar y tri pheth hyn yr ymddibynir am hynawsedd y darllenydd—Fod y llyfr yn ddifyrus i’w ddarllen,—yn cyfleu gwybodaeth yn yr hyn a draetha,—ac yn dwyn tystiolaeth ddiolchgar i ras Duw, “yr hwn y mae ei ffyrdd yn y môr a’i lwybrau yn y dyfroedd mawrion.”

On one page the author offers a charming view of the country, noting among other pleasures the melodious song of the birds. This is to a degree a mistake, as the birds of Australia do not fill the groves with music as in our country. Should there be a call for a new edition of the book that error and a few other infelicities of expression could be emended. But, in the end, the indulgence of the reader depends on three things—that the book be entertaining; that it convey information on its subject; and that it bear thankful witness to the grace of God, whose “way is in the sea, and his path in the great waters.” [Psalms 77:19]



Home        Contents        Previous        Next

The content of this page,
and of the entire "Old Welsh Books with English Translations" website
is, save where prior right apply,
Copyright © John Bear.