|
|
|
HANES MORDAITH, &c.MORDAITH Y “JOHN DAVIES”CADBEN HUGHES.Boreu ddydd Iau, Gorphenhaf 22, 1852, y codasom yr angor yn yr Afon Mersey, i gychwyn ein mordaith bell, a buan y’n tynwyd gan yr ager-fâd o’r tu allan i’r Bell Buoy, ac i’n gadawyd ganddo i drugaredd y gwynt a’r môr, pryd yr ymadawodd Mr. D. a’r pilot, a chyfeillion ereill; ar y pryd, rhoddes yr holl ymfudwyr a’n morwyr, nifer pa rai yn nghyd ydoedd 502, eu cyfarchiad olaf mewn banllefau iddynt---y tro olaf i ran luosog am byth yn y byd hwn. Cawsom awel wrthwynebus trwy weddill y dydd, a llawer yn teimlo salwch y môr. |
ACCOUNT OF A VOYAGE, &c.THE VOYAGE OF THE “JOHN DAVIES”CAPTAIN HUGHES.On Thursday morning, July 22, 1852, we raised anchor in the River Mersey, to start our long voyage, and soon we were pulled by the steamboat out beyond the Bell Buoy, which left us to the mercy of the wind and the sea, whereupon Mr. D. and the pilot departed with some companions; at that point all the emigrants and our sailors, together numbering 502, shouted their last farewells—for many, the last time they would do so in this world. We had a contrary breeze for the rest of the day, and many experienced seasickness. |
|
23, Dydd Gwener.—Awel ysgafn o’n tu-pawb yn lled gysurus. Cyrhaeddasom ben Caergybi cyn cysgu, pryd y cymerasom yr olwg olaf ar wlad ein genedigaeth—fe allai y tro olaf am byth. |
23, Friday.—A light breeze from all sides, rather comforting. We saw the last of Holyhead before retiring, when we had the last view of our native land—perhaps for the last time ever. |
|
24, Dydd Sadwrn.—Ychydig wynt, a’r hin yn gynhes, a’r llong yn myned yn araf, ac weithiau yn gorphwys yn fawreddig ar wyneb yr elfen lâs a llonydd; a ninau, druain, yn dechreu parotoi tuag at gadw y Sabbath cyntaf ar y môr. Am 7 yn y hwyr cyfarfuasom âg un o ager-longau America, yn llawn o ddychweledigion o wlad y Gorllewin; cyfarchasom ein gilydd trwy y banerau. |
24, Saturday.—Little wind, and the weather warm, and the ship travelling slowly, at times resting majestically on the surface of the calm, blue element; while we poor wretches prepare to keep the first Sabbath on the sea. At 7 in the evening we met with one of the American steamships, full of people returning from the land in the West; we greeted each other with signalling flags. |
|
25, Y Sabbath.—O! ddydd gwerthfawr, ar y môr a’r tir, ond ei iawn ddefnyddio! Pawb yn lled gysurus; yr awel yn ysgafn, ond teg. Darllenwyd gwasanaeth yr Eglwys Wladol gan ein meddyg, yn deilwng a phriodol; a darlith oddiar y gair hwnw yn y Salm, “Trugarha wrthyf, O Dduw,” &c., i gynnulleidfa lanwaith a gweddus. Yn y prydnawn cryfhaodd y gwynt, ac yr ydym yn cael ein cario yn gyflym i’r Mor Werydd Gogleddol (North Atlantic Ocean). Cadwyd Ysgol Sabbathol Gymreig yn mhlith y morwyr. A diweddwyd y dydd santaidd hwn heb brofedigaeth. |
25, The Sabbath.—O! precious day, at sea and on land, if only rightly used! Everyone fairly comfortable; the breeze light, but fair. The service of the National Church was read by our physician, worthily and properly; and a sermon on the words of the Psalm, “Have mercy upon me, O God,” &c.,1 to a clean and decent congregation. In the afternoon the wind strengthened, and we are being carried speedily into the North Atlantic Ocean. A Welsh Sunday School was held amongst the sailors. And this holy day ended without incident. |
|
26, Dydd Llun—Y gwynt yn gryf, ond teg. Ychydig o orphwys a gafodd ein llywydd gofalus a’r morwyr ar hyd y nos. Heddyw bu farw baban deng mis oed, ac hebryngasom ei gorph i fynwes y dòn, i orphwys hyd y bore y “rhydd y môr i fyny y meirw.” |
26, Sunday—The wind strong, but fair. Our anxious captain and the sailors had little rest during the night. A baby ten months old died today, and we delivered its body into the bosom of the waves, to rest until the day when “the sea gives up the dead.” |
|
27, Dydd Mawrth.—Boreu siriol hynod, a’r gwynt yn dêg, a’n llong yn hwylio yn gyflym tua’r deau. Am 10 yn y boreu aethom heibio i long o’r enw Quinto, o India Ddwyreiniol am Loegr. Heddyw, am y tro cyntaf, gwelsom un o’r pysgod hyny ag sydd yn arfer chwythu i fyny y dyfroedd. |
27, Tuesday.—A singularly pleasant morning, and the wind fair, and our ship is sailing at speed towards the south. At 10 in the morning we passed a ship called the Quinto, bound for England from the East Indies. Today, for the first time, we saw one of those fish which spout water in the air. |
|
28, Dydd Mercher.—Gwynt teg, ond araf. Erbyn hyn yr ydym o nifer y “rhai sydd bell ar y môr.” Gan mai yr Arglwydd yw “gobaith holl gyrau y ddaear, a’r rhai sydd bell ar y môr,” diau fod yn y llong hon amryw yn gobeithio ynddo. Pawb yn lled iach a siriol. Lled. 44 gradd, 33 munyd, Gog. Hyd. 14 gradd, 28 munyd, Gor. Yr ydym yn teimlo yr hin yn cynhesu. Dywed ein gwŷr deallus ein bod gyferbyn a’r Cape Finisterre. |
28, Wednesday.—A fair wind, but slow. Now we are among the number of “them that are afar off upon the sea.” Since the Lord is “the confidence of all the ends of the earth, and of them that are afar off upon the sea,” doubtless there are many on this ship who put their trust in him. Everyone fairly healthy and cheerful. Lat. 44 degrees, 33 minutes, N. Long. 14 degrees, 28 minutes, W. We can feel the weather warming. Our learned men say we are opposite Cape Finisterre. |
|
29, Dydd Iau.—Y gwynt yn dêg, a’r hin yn cynhesu. Collasom faban ieuanc eto. Croesodd llong ein llwybr heddyw, yn cyfeirio at Fôr y Canoldir. Amryw yn cael eu blino gan y dolur rhydd yn yr ymysgaroedd; ond trwy drugaredd, nid yn drwm. |
29, Thursday.—The wind fair, and the weather warming. We have lost another young infant. A ship crossed our path today, heading for the Mediterranean. Several people suffering with diarrhoea; but mercifully, not severely.. |
|
30, Dydd Gwener.—Boreu siriol, a gwynt teg; yr eigion ddofn oddi tanom, a’r wybren uwch ben, a dim tir yn y golwg; er hyny yr ydym yn cael cymhorth i dawel orphwys ar Graig yr oesoedd. Lled. 39 gradd, 25 munyd, Gogleddol; Hyd. 18 gradd, 50 munyd, Gorllewinol. |
30, Friday.—A fine morning, and a fair wind; the deep sea under us, and the high heavens above, and no land in sight; in spite of this we are being helped to rest quietly on the Rock of ages. Lat. 39 degrees, 25 minutes, North; Long. 18 degrees, 50 minutes, West. |
|
31, Dydd Sadwrn.—Fel yr ydym yn nesâu yn raddol at y Cyhydedd, yr ydym yn teimlo yr hin yn poethi yn fawr; ond y mae yr awel yn iachus, ac yn cario yn hwylus i’r de-ddwyrain, a thrugaredd yn cylchio y llong a’i llwyth o ddynolion. Lled. 37 gradd, 19 munyd, Gog.; Hyd. 17 gradd, 39 munyd, Gor. |
31, Saturday.—As we gradually approach the Equator, we can feel the weather growing much hotter; but the breeze is healthy, and carries us expeditiously to the south-east, and mercy surrounds the ship and its cargo of humanity. Lat. 37 degrees, 19 minutes, N.; Long. 17 degrees, 39 minutes, W. |
|
1 Psalm 51. |