|
|
|
AWSTRALIA ORLLEWINOL.Y FORDAITH.Ychydig fisoedd yn ol darfu i mi ysgrifenu llyfr yn Seisnig ar hanes Awstralia Orllewinol, a gwerthwyd dros 2,000 o gopiau mewn ychydig iawn o amser; a chan fod canoedd o Gymry wedi taer apelio ataf am iddo ymddangos yn Gymraeg, fel Cymro cenedlgarol, nis gallaf lai na chydsynio a’u cais; a chan fod y llyfr yn cynwys gwybodaeth na chyhoeddwyd erioed yn yr Hen Iaith yn flaenorol, hyderaf y ca gylchrediad eang yn mhlith fy anwyl gyd-wladwyr, yn enwedig trwy fy mod wedi cael profiad helaeth o fyw mewn gwledydd pellenig yn ystod y 27ain mlynedd diweddaf, megys Patagonia, Awstralia, a pharthau ereill o’r byd. Gwnaf fy ngoreu i roddi crynodeb cywir o hanes y wlad a’i rhagolygon heb ganmawl gormod arni ar y naill law, na rhoddi golwg rhy dywyll arni ar y law arall. |
WESTERN AUSTRALIA.THE VOYAGE.A few months ago I wrote a book in English on the history of Western Australia, and over 2,000 copies were sold in a very short time; and as hundreds of Welshmen have earnestly appealed to me for it to appear in the Welsh language, as a patriotic Welshman, I can do no less than agree to their request; and as the book contains information never before published in the Old Language, I am confident that it will receive wide circulation amongst my dear compatriots, especially as I have had ample experience of living in remote countries over the last 27 years, such as Patagonia, Australia, and other parts of the world. I will do my best to give a true summary of the history of the country and its prospects without excessive praise for it on the one hand, or taking too dim a view of it on the other. |
|
Fel rhagymadrodd, dichon mai nid anyddorol fyddai gair neu ddau am y fordaith oddiyma i Awstralia Orllewinol trwy ei bod yn un o’r rhai mwyaf hyfryd a dyddorol yn y byd. Gellir myned yno yn bresenol mewn tair gwahanol ffordd, sef heibio Penrhyn Gobaith Da, trwy Ogledd America a’r Tawelfôr, neu trwy Fôr y Canoldir a’r Môr Coch. Yr olaf ydyw y ffordd mwyaf cyffredin o fordeithio tuag yno, ac yn wir, y ffordd mwyaf ddyddorol, yn gymaint a bod y teithiwr yn cael y fantais a’r pleser o ymweled yn ystod y fordaith hon â rhai o’r lleoedd mwyaf nodedig ac enwog mewn hanesyddiaeth, megys Gibraltar, Marsailles, Genoa, Naples, Pompeii, yr Aifft, Ceylon, a manau ereill. I’r Ffrancwr enwog, y diweddar M. DeLesseps, yr hwn a ddyfeisiodd ffordd i gysylltu Môr y Canoldir a’r Môr Coch, yr ydym yn ddyledus am y fraint o weled y lleoedd enwog hyn yn ystod y fordaith i Awstralia. Cyn agor Camlas y Suez, rhaid oedd hwylio trwy gyfeiriad arall o’r byd. Mae yn werth sylwi hefyd fod y fordaith trwy y Suez yn fyrach na’r un ffordd arall. |
As an introduction, perhaps it would not be out of place to say a word about the voyage from here to Western Australia as it is one of the most pleasant and interesting in the world. At present one can get there in three different ways, namely past the Cape of Good Hope, through North America and the Pacific Ocean, or through the Mediterranean and the Red Sea. The last is the most common way of travelling there, and indeed, the most interesting, inasmuch as the traveller has the benefit and the pleasure of visiting during the voyage some of the most notable and most famous places in history, such as Gibraltar, Marseilles, Genoa, Naples, Pompeii, Egypt, Ceylon, and other places. To the famous Frenchman, the late M. DeLesseps, who contrived a way to connect the Mediterranean with the Red Sea, we are indebted for the privilege of seeing these famous places on the voyage to Australia. Before the Suez Canal was opened, it was necessary to sail through a different part of the world. It is worth noting as well that the path through the Suez is shorter than any other way. |
|
Wedi hwylio o Llundain neu Southampton a chael y gipdrem olaf ar ororau Ynys Prydain, mae yr agerlong yn cyflymu yn mlaen ar gyffiniau Ffrainc, a bron yn ddiarwybod yr ydym yn cael ein hunain yn nghanol y Bay of Biscay, y rhan arwaf o’r oll fordaith i Awstralia fel rheol, a rhwng salwch y môr a ffyrnigrwydd y tònau, bydd llawer un yn barod i ddymuno am adenydd i ddianc i dir, ond nid yw ond dymuniad ofer. Bydd pethau digrif iawn yn cymeryd lle dan amgylchiadau o’r fath weithiau. |
After sailing from London or Southampton and getting the last glimpse of the shores of the Island of Britain, the steamship hurries on past the coast of France, and almost without knowing it we find ourselves in the middle of the Bay of Biscay, the roughest part of the voyage to Australia as a rule, where between the seasickness and the violent waves, many a one is ready to wish for wings, to carry him off to land, but it is a vain wish. In such circumstances very funny things sometimes take place. |
|
Yr wyf yn cofio un tro pan oedd y môr yn bur arw a’r llong yn cael ei rholio yn enbyd, digwyddodd fod yn amser ciniaw, a dyma y gloch yn galw ar bawb i ddyfod i fwyta, a chan fy mod heb gyffwrdd a thamaid er ys dau ddiwrnod, penderfynais gyfodi o’m gorweddle a cheisio bwyta tamaid i gadw corff ac enaid yn nghyd. Pan gyrhaeddais at y bwrdd yr oedd yno naw neu ddeg o Italiaid yn bwyta, a gofynais i un o honynt fod mor garedig a thywallt i mi gwpanaid o dê, a thra yr oedd y gŵr yn dal tebot mawr yn ei law, wele y llong yn sydyn yn cael ei rholio i’r fath raddau nes dymchwelyd y bwrdd a’r cadeiriau nes oeddynt yn bendramwnwgl ar y llawr, ac wele y dynion a eisteddent i fwyta, y llestri a’r bwydydd, a’r cwbl yn cwympo ac yn rholio ar draws eu gilydd yn y modd digrifaf, er difyrwch a chwerthin i’r rhai a eisteddent wrth y byrddau ereill. |
I recall one occasion when the sea was very rough and the ship rolling alarmingly. It happened to be dinner-time, and the bell rang for everyone to come and eat, and as I had not touched a morsel of food for two days, I decided to rise from my bunk and try to eat a bit to keep body and soul together. When I arrived at the table there were nine or ten Italians dining, and I asked one of them if he would be so kind as to pour me a cup of tea. As the man was holding the big teapot in his hand, the ship suddenly rolled to such a degree as to upset the table and the chairs and throw them in a jumble to the floor, and all of a sudden the diners, the plates and the food, and everything else, were falling and rolling over each other in the most comical way, to the amusement and laughter of those sitting at other tables. |
|
Wedi myned trwy Bay of Biscay yr ydym yn cael golwg ardderchog o Spaen a Phortugal, ac wedi treulio ychydig oriau yn Gibraltar, a hwylio am ychydig ddyddiau ar Fôr y Canoldir, yr ydym yn dynesu at Naples yn Itali, ac i’r mordeithiwr a ddigwydda gael y fraint hon yn ystod y nos mae yr olygfa yn ogoneddus ac ofnadwy, oblegyd mae mynydd tanllyd Vesuvius ar adegau yn goleuo y môr am ugeiniau o filldiroedd. |
Having passed through the Bay of Biscay we have a splendid view of Spain and Portugal, and after spending a few hours at Gibraltar, and sailing for a few days in the Mediterranean, we are nearing Naples in Italy, and to those voyagers who happen to have the privilege during the night, the sight is glorious and awesome, because the volcano Vesuvius at times lights the sea for scores of miles. |
|
Yn ystod y daith o Gibraltar i Naples ceir golwg ar Ynysoedd Sardinia a Corsica, a bydd bron pob agerlong yn galw yn un o’r tri lle canlynol, sef Algiers yn Africa, Marsailles yn Ffrainc, a Genoa yn Ngogledd Itali. Mae bob un o’r tri lle uchod yn werth ymweled â hwnt, yn enwedig Genoa lle mae y fynwent oreu a mwyaf nodedig yn yr holl fyd. Mae y Bay of Naples a’r wlad oddiamgylch wedi cael eu darlunio gan deithwyr ac ereill drosodd a throsodd fel golygfeydd prydferthaf y byd, a beirdd hen a diweddar wedi canu mai dyma baradwys y ddaear, a dyma fel y dywedodd un o honynt:— “Diau nid yw y fro hon o’r ddaear,Tra yr ydym yn hwylio i fewn i’r hafan ddymunol hon, mae y fath olwg swynol ar ddinas Naples yn y pellder fel yr ydym bron yn barod i ddweyd yn ngeiriau y Salmydd, “Tegwch bro, llawenydd yr holl ddaear;” ac i goroni y cwbl y mae mynydd tanllyd Vesuvius yn ymddyrchafu i’r cymylau, gyda mwg a thân yn dyfod allan o’i safnau yn olygfa nas anghofir yn fuan. |
In the course of the journey from Gibraltar to Naples the Islands of Sardinia and Corsica can be seen, and almost every steamship calls at one of three places, namely Algiers in Africa, Marseilles in France, and Genoa in Northern Italy. Each of these three is worth visiting, especially Genoa which has the best and most famous cemetery in all the world. The Bay of Naples and its surrounding country has been depicted by many travellers and others over and over as the most beautiful sights in the world, and poets old and modern have sung of this earthly paradise, as does this one:— “Surely this vale is not of the earth,As we sail into this pleasant harbour, the city of Naples looks so enchanting that we are almost inclined to speak the words of the Psalmist, “Beautiful for situation, the joy of the whole earth,”1 and to crown all the volcano Vesuvius rises into the clouds, with smoke and flames issuing from its jaws, a sight not soon forgotten. |
|
Peth ag sydd o ddyddordeb mawr hefyd i bob Cristion ydyw y ffaith mai yn y rhan hon o Itali y glaniodd St. Paul gynt, Apostol Mawr y Cenedloedd, pan ar ei daith fel carcharor i Rufain, prif ddinas y byd y pryd hyny. |
Another thing of great interest to all Christians is the fact that it was in this part of Italy that St. Paul, the Great Apostle of the Gentiles, landed long ago, while on his journey as a prisoner to Rome, the chief city of the world at that time. |
|
Mae Naples yn un o’r dinasoedd mwyaf os nad y mwyaf yn Itali, a chynwysa oddeutu 800,000 o drigolion, ac ymddengys eu bod yn cymeryd eu byd yn esmwyth ac yn mwynhau eu hunain yn rhyfeddol yno, eto, mae’n amlwg fod llawer o honynt yn ddigon tlawd eu hamgylchiadau, gan nad oes prinder ar gardotwyr; ac er fod yn y dref lawer o adeiladau prydferth, culion iawn ydyw yr heolydd oddigerth un neu ddwy, ond y mae pobpeth yn myned yn mlaen yno yn hynod hwylus a bywiog. Mae gan Frenin Itali balas hardd yn y ddinas, ac ychydig flynyddau yn ol cefais y fraint a’r hyfrydwch o fyned trwy lawer o’i ystafelloedd mwyaf gwych. Pabyddion ydyw trigolion Naples, fel rhanau ereill o Itali, ac y mae yno rai eglwysi gwerth eu gweled, a chanu swynol dros ben ynddynt, ac yr wyf o’r farn fod Itali yn gymaint o wlad y gân ac ydyw Cymru. |
Naples is one of the largest cities in Italy, if not the largest, with some 800,000 inhabitants, who appear to take life at their ease and enjoy themselves marvellously there, though it is obvious that many of them are in quite poor circumstances, as there is no scarcity of beggars; and although there are many beautiful buildings in the town, the roads are very narrow excepting one or two; but business is carried on in a remarkably smooth and lively fashion. The King of Italy has a fine palace in the city, and a few years ago I had the privilege and pleasure of looking through many of its most splendid rooms. The residents of Naples are Roman Catholics, as in other parts of Italy, and there are several churches worth seeing, where one can hear the most wonderful singing, and I am of the opinion that Italy, just as much as Wales, is a land of song. |
|
Ond y peth goreu yn y ddinas yn ddiau ydyw y Museum; yn wir, ystyrir Museum Naples y goreu a’r mwyaf nodedig yn y byd, am ei bod yn llawn o drysorau a hen weddillion dyddorol wedi eu casglu o adfeilion hen ddinasoedd Pompeii a Herculaneum, megys celfi, addurniadau, darluniau, a llawer o bethau cyffelyb; ac y mae y cerfluniau o bres ac o farmor yn profi fod yr hen Rufeiniaid gynt yn rhagori yn fawr ar gelfyddwyr goreu yr oes hon mewn celfyddydwaith. |
But without doubt the best thing in the city is the Museum; indeed, the Museum of Naples is considered the most notable in the world, being filled with treasures and interesting relics gathered from the ruins of Pompeii and Herculaneum, such as furniture, ornaments, pictures, and many things of that kind; and the bronze and marble statues prove the ancient Romans far superior in skill to the best artists of the present age. |
|
Mae rhyfeddodau Naples a’r cymydogaethau cylchynol mor lluosog ac amrywiol fel y cymerai gyfrolau i’w darlunio. Nid yw adfeilion Pompeii ond prin 17 o filldiroedd o’r ddinas, a gellir myned yno ar hyd y ffordd mewn cerbyd neu gyda’r trên, ac y mae y daith yn ein harwain gyda godreu mynydd Vesuvius, yr hwn sydd yn ymddyrchafu i’r dwyrain, ac i’r gorllewin i ni y mae Bay prydferth Naples. Yn wir mae yn werth mordaith i Awstralia pe ond er mwyn cael gweled adfeilion Pompeii ac Herculaneum. Prin mae yn angenrheidiol adgoffa y darllenydd mai hen ddinasoedd oedd y ddwy hyn (Pompeii ac Herculaneum), ag oeddynt yn enwog pan oedd ein Hiachawdwr Bendigedig ar y ddaear yma, ond yn y flwyddyn 79, sef ychydig flynyddau ar ol dinystr Jerusalem, cawsant eu claddu gan y dylif tân ffrydiodd mynydd Vesuvius allan o’i ffroenau, ac yr oedd marwolaeth y trigolion mor sydyn ac ofnadwy a’r hyn gymerodd le ychydig amser yn ol yn Martinique, India y Gorllewin. Claddwyd Herculaneum gan lava caled, ac eir lawr i weled ei hadfeilion heddyw trwy fath o dwnel (tunnel) wrth oleu canwyll. |
The wonders of Naples and its surrounds are so numerous and varied that it would take volumes to describe them. The ruins of Pompeii are barely 17 miles from the city, and can be reached by carriage or train, the journey taking us through the skirts of Mount Vesuvius, which rises to the east, while to the west we can see the beautiful Bay of Naples. Indeed it is worth the voyage to Australia if only to see Pompeii and Herculaneum. It is hardly neccessary to remind the reader that these two (Pompeii and Herculaneum) are ancient cities, and were famous when our Blessed Saviour was on this earth, but in the year 79, that is a few years after the destruction of Jerusalem, they were buried by the fiery flood that gushed out of the muzzle of Vesuvius, and the death of the inhabitants was as sudden and dreadful as that which took place a little while ago in Martinique, in the West Indies.2 Herculaneum is buried under solid lava, and to see it one has to go down through a sort of tunnel by candle-light. |
|
Ond â llwch a lludw y claddwyd dinas Pompeii, a gan ei fod yn sylwedd meddal llwyddwyd yn ystod y can’mlynedd diweddaf i’w glirio ymaith i’r fath raddau nes erbyn heddyw mae colofnau, adfeilion tai, temlau, ac heolydd wedi dyfod i oleuni dydd yr awyr agored, a thra yn troedio yr heolydd dystaw hyn, prin yr ydym yn medru sylweddoli mai yn nghanol dinas y meirw ydym, gan fod pobpeth yn ymddangos mor naturiol fel pe bai y trigolion yn fyw er eu bod wedi marw er yn agos i ddwy fil o flynyddoedd. Mae y costrelau olew yn y siop a’r bara yn y ffwrn, ac hynod fel yr ymddengys ôl olwynion y cerbydau mor eglur ar y prif heolydd. Ac os awn i gael golwg ar yr ymdrochle drachefn, yno mae yr addurngawgiau at ddal yr enaint gwerthfawr a’r peraroglau. Mewn un rhan o’r ddinas yr ydym yn cael golwg ar furiau ac allor teml fawreddog Jupiter, yr hon, fel yr ymddengys, oedd heb orphen cael ei hadeiladu pan ddaeth y dylif tân i roddi terfyn ar y cwbl. Mewn man arall yr ydym yn nghanol yr amchwareufa (amphitheatre)—lle digon mawr i ryw 20,000 o’r Pompeiiaid gynt eistedd yn gysurus i fwynhau eu hunain wrth weled dynion truain yn gorfod ymladd â llewod. Sylwais fod dwy fynedfa i’r amchwareufa, sef un i ddynion cyfoethog a’r llall i ddynion tlawd, ac mewn un gongl yr oedd yno fath o ystafelloedd bychain wedi eu gwneyd o geryg (nid yn anhebyg i dwlc mochyn ond yn fwy) at gadw y llewod hyn. |
Pompeii on the other hand was buried under dust and ash, which was soft enough to be cleared away during the last century, to such a degree that today columns, ruined houses, temples, and roads have come into the light of day and the open air, and as we tread these silent streets, we can scarcely recognize that we are in the middle of a city of the dead, for everything looks so natural that it is as if the inhabitants still live, though they have been dead near two thousand years. The bottles of oil are in the shop and the bread in the oven, and it is remarkable how the tracks of chariot-wheels are so clear on the main roads. And if we afterwards go to see the baths, we find the ornamental vases to hold the precious ointment and scents. In one part of the city we can see the walls and altar of the magnificent temple of Jupiter, which, as it seems, had not been fully constructed before the lava-torrent came to put an end to all. In another place we are in the middle of the amphitheatre—big enough for some 20,000 Pompeians to have sat comfortably while watching unfortunate men forced to fight lions for their amusement. I noticed there were two entrances to the amphitheatre, one for the wealthy and the other for the poor, and in one corner some small chambers made of stone (not unlike a pigsty but larger) where these lions were kept. |
|
Yn hen ddinas Pompeii yr ydym yn cael rhyw fath o ddrychfeddwl am y dull o fyw, arferion a chwaeth y trigolion yn y dyddiau hyny pan oedd yr Hen Ymherodraeth Rhufeinig yn uchder penaf ei gogoniant. Ymddengys i Pompeii gael ei sylfaeni yn foreu iawn gan yr Oscaniaid, a dewiswyd y fan i’w adeiladu trwy ddewiniaeth, pryd y darfu i’r sylfaenwyr cyntaf neidio trwy dân a gyneuasid fel defod o buredigaeth. |
In the old city of Pompeii we get some idea of the way of life, habits and tastes of the inhabitants in those days when the Old Roman Empire was at the height of its glory. It appears that Pompeii was founded in very early times by the Oscans, and the site of its construction was chosen by divination, when the first founders leapt through a fire lit in a rite of purification. |
|
Wedi treulio rhyw ddau ddiwrnod fel hyn yn Naples a Pompeii yr ydym ar ein mordaith eilwaith i gyfeiriad Awstralia, ac wedi pasio heibio Ynys Capri (hoff le Garibaldi) yr ydym yn teithio yn mlaen gyda glanau arfordir deheuol Itali. Mae yr arfordir hwn wedi ei anfarwoli fel lle yr ymladdwyd ar y môr gynt, rai canrifoedd cyn cred, frwydrau gwaedlyd rhwng y Rhufeiniaid a’r Carthaginiaid; ac yr ydym yn hwylio yn awr lle bu yr Apostol Paul yn hwylio gynt; yn wir yr ydym yn cael golwg ar rai lleoedd megys Rhegium a Syracusa a enwyr yn Llyfr yr Actau, yr ydym hefyd yn cael golwg ar fynydd tanllyd Etna ac ynys Malta, ac wedi myned ychydig yn mhellach yn mlaen daw ynys Creta yn fuan i’r golwg, a’r fath olygfa ryfeddol o’r môr ydyw gweled mynydd Ida yn yr ynys hono yn ymgodi i’r uchder o 8,000 o droedfeddi gyda’i gopa yn orchuddedig âg eira oesol. Pen y mynydd hwn, meddant hwy, ydoedd lle genedigol Jupiter, prif dduw y Paganiaid. |
Having spent some two days like this in Naples and Pompeii we are on our second voyage in the direction of Australia, and after passing the Island of Capri (a favourite place of Garibaldi)3 we follow the southern coast of Italy. This coast has been immortalized as the location of the ancient sea battles, several centuries before the Christian era, between the Romans and the Carthaginians; and we are now sailing where the Apostle Paul once sailed; indeed we are in sight of places such as Rhegium and Syracuse, mentioned in the Book of Acts, and of the volcano Etna and the island of Malta; a little farther on the island of Crete comes into view, and a wondrous sight it is to see Mount Ida on that island rising to a height of 8,000 feet, its peak covered with permanent snow. The top of this mountain, they say, is the birthplace of Jupiter, chief god of the Pagans. |
|
Y lle nesaf y byddwn yn galw ynddo ydyw Port Said, yn ngwlad yr Aifft. Pellder Port Said o Naples ydyw 1,111 o filldiroedd, neu fordaith o bedwar diwrnod. Tref ydyw Port Said ar lan y môr yn y fan lle mae y Gamlas Suez yn cydio yn Môr y Canoldir. Nid oes dim yn ddymunol yn y lle hwn, a’r peth mwyaf dyddorol mewn cysylltiad ag ef, yn ddiau, mai yma yr ydym yn cael y gipdrem gyntaf o Wlad yr Aifft, ac o fywyd dwyreiniol. Gellir myned oddiyma i Wlad Canaan mewn ychydig iawn o amser trwy fod llongau yn rhedeg i Joppa (lle yr aeth Jonah i’r môr gynt) yn barhaus. |
The next place we call at is Port Said, in Egypt, which is 1,111 miles from Naples, or a voyage of four days. It is a seaside town at the junction of the Suez Canal and the Mediterranean Sea. There is nothing agreeable in this place, and the most interesting thing in connection with it is that it is our first glimpse of Egypt, and of eastern life. From here one can get to the Land of Canaan in a very short time by ship, running constantly to Joppa4 (whence Jonah once went to sea). |
|
Yn y rhan hon o’r byd yr ydym yn nghanol y parthau hyny ag sydd yn enwog mewn hanesiaeth Ysgrythyrol. Wedi myned trwy y Gamlas Suez yr ydym yn nghanol y Môr Coch. Ar y llaw dde i ni mae gwlad yr Aifft, ac ar yr aswy yr ydym yn cael golwg eglur o’r anialwch lle bu yr Israeliaid, pobl yr Arglwydd gynt, yn crwydro am ddeugain mlynedd, ac anialwch ydyw hefyd, neu yn hytrach ddiffaethwch llwm a sych; ac nid oedd ond Duw yn unig a allasai gynal rhyw dair miliwn o drigolion yn y fath le a hwn am ddeugain mlynedd. Yr ydym hefyd yn cael rhyw gipdrem o Fynydd Sinai, yn ymddangos fel rhyw gwmwl du yn y pellder. Y mae yn cymeryd rhai dyddiau i fyned trwy y Môr Coch, canys er nad yw ond cul o ran lled, eto y mae gryn hyd ynddo, a chyn cyrhaedd y Môr Indiaidd (Indian Ocean) yr ydym yn mordwyo rhwng Arabia ac Ethiopia. Yr ydym hefyd yn cael golwg ar fynyddoedd y wlad lle mae rhyfel yn myned yn mlaen yn bresenol, sef Somaliland, gwlad y “Mad Mullah,” y sonir cymaint am dano yn y papurau. |
In this part of the world we are amid those regions famous in Scriptural history. After passing through the Suez Canal we are in the Red Sea. On the starboard side there is Egypt, and on the port side we have a clear view of the wilderness where the Israelites, the Lord’s chosen people, wandered for forty years, and it is truly a wilderness, or rather a desert, dry and bare; God alone could have supported some three million people in such a place, and that for forty years. We also glimpse Mount Sinai, looking like a dark cloud in the distance. It takes several days to travel through the Red Sea, because although quite narrow, it is of considerable length, and we must pass between Arabia and Ethiopia. We can see as well the mountains of the country where presently there is war, namely Somaliland, the land of the “Mad Mullah,”5 of whom so much is written in the papers. |
|
Wedi hyny yr ydym yn myned trwy y Môr Indiaidd nes cyrhaedd Colombo, prif ddinas ynys Ceylon, ond cyn cyrhaedd yr ynys hono yr ydym yn myned heibio i gກr deheuol India. |
Now we sail through the Indian Ocean till we reach Colombo, capital of the island of Ceylon, but not before passing the southern corner of India. |
|
Trwy fod y llong yn aros dau ddiwrnod yn Colombo, yr ydym yn cael cyfleusdra da i weled y dref a’r wlad oddiamgylch, neu fyned gyda’r trên i Kandi, hen dref enwog yn nghanol gwlad y mynyddau lle mae y tê yn tyfu. |
With the ship staying two days at Colombo, we have a good opportunity to see the town and the country about, or take the train to Kandy, a famous old town in the mountainous region where the tea is grown. |
|
Mae Ceylon yn ynys fawr, gymaint a Chymru dair gwaith a haner, ac mae yn anhawdd meddwl am wlad mewn unrhyw ran o’r byd ag sydd yn ymddangos mor ddymunol a ffrwythlon, ac eto i gyd ymddengys fod llawer o’r bobl gyffredin yn dlodion iawn, ond yr wyf yn ofni mai diogi a diffyg egni sydd yn peri hyn. Canfyddais bobl yno o bob lliw a llun, a llawer o honynt bron yn noethion, ond yr oedd mawrion y wlad yn ymwisgo yn orwych. Cynwysa yr ynys oddeutu 3,000,000 o drigolion—dwy ran o dair o honynt yn cael eu galw yn Cingalesiaid, y rhai ydynt drigolion gwreiddiol y wlad, a’r lleill yn cael eu gwneyd i fyny o Damiliaid, Mahometainiaid, tra nad ydyw yr Ewropiaid yn rhifo ond 7,000. Mae Ceylon yn perthyn i Loegr er ys can’mlynedd bellach, ond yr Ewropiaid cyntaf i feddianu yr Ynys ydoedd y Portugeaid, ond dygwyd hi oddiarnynt gan yr Is-ellmyn (Dutch), ac oddiarnynt hwythau gan Loegr. Diorseddwyd y brenin brodorol diweddaf, yr hwn a breswyliai yn Kandy, yn y flwyddyn 1816. Mae llawer o genadon o Brydain yn yr ynys, a bernir fod yno bellach dros 60,000 o Gristionogion brodorol, ac y mae y nifer hwnw yn cynyddu yn gyflym trwy fod gwaith da yn cael ei wneyd yno. Gwlad wastad ydyw ar y cyfan, ond mae canolbarth y rhanau deheuol o honi yn fynyddig, a gelwir un o’r mynyddau mwyaf yn “Fynydd Adda,” gan y tybir yn mhlith rhai o’r Mahometaniaid mai i Ceylon yr aethai Adda ac Efa i fyw wedi iddynt gael eu gyru allan o ardd Eden. Prif gynyrch yr ynys yn bresenol yw tê, myglys, cinamon, &c. Dichon fod Ceylon yn enw mwy adnabyddus i’r Cymry yn awr nag o’r blaen gan i rai miloedd o’r Boeriaid gael eu hanfon yno yn ystod y rhyfel yn Neheudir Affrica. |
Ceylon is a large island, three and a half times the size of Wales, and it is difficult to think of a country in any part of the world which seems so pleasant and fertile; nevertheless it appears that many of the common folk are very poor, but I fear that laziness and lack of energy are the causes of this. I observed people there of every kind and colour, and many of them almost naked, though the great of the country dress grandly. The island has a population of some 3,000,000—two thirds of them are called Cingalese, who are the original inhabitants of the country, and the rest are made up of Tamils, Mahometans, and a mere 7,000 Europeans. Ceylon has belonged to England for a century now, but the first Europeans to take possession of the Island were the Portuguese, but it was seized from them by the Dutch, and from them in turn by England. The last native king, who resided in Kandy, was deposed in the year 1816. There are many British missionaries in the island, and it is reckoned there are now over 60,000 native Christians there, and that number is increasing quickly because of the good work being done there. It is a flat country on the whole, but the central region of the southern part is mountainous, and one of the largest mountains is called “Adam’s Mountain,” because it is supposed among some of the Mahometans that it was to Ceylon that Adam and Eve went after being expelled from the garden of Eden. The chief products of the island presently are tea, tobacco, cinnamon, &c. Ceylon may be a more familiar name to the Welsh now than before as several thousand of the Boers were sent there during the war in South Africa. |
|
Wedi gadael Ceylon nid oes dim tir i’w weled mwyach yn ystod gweddill y fordaith hyd nes y deuwn i olwg Awstralia. Y pellder o Colombo, prif ddinas yr Ynys, i Fremantle, prif borthladd Awstralia Orllewinol, ydyw 3,140 o filldiroedd, sef mordaith o ddeg diwrnod. |
After Ceylon there is no more visible land for the rest of the voyage until we come in sight of Australia. The distance from Colombo, capital of the Island, to Fremantle, the chief port of Western Australia, is 3,140 miles, a voyage of ten days. |
|
1 Ps. 48:2. 2 The eruption of Mt. Pelée in 1902. 3 The author may have confused Capri with Caprera, between Sardinia and Corsica, where Garibaldi spent much of his life. 4 Jaffa. 5 Sheikh Mohammed bin Abdullah Hassan, who beginning in 1899 led a long rebellion against the British. |