|
|
|
|
G. Y mae yn debyg ei fod yn lle da i seiri? |
Q. It is likely a good place for artisans? |
|
G. A oes yno lawer o dai yn cael eu hadeiladu yn gwbl o goed? |
Q. Are there many wooden houses there at all? |
|
G. Gan fod boneddiges yn Awstralia yn cynghori ymfudwyr i ddyfod â llestri pridd gyda hwynt, a ydynt yn uchel bris yno? |
Q. As a lady in Australia has advised emigrants to bring earthenware with them, how expensive is it there? |
|
G. Clywais foneddwr a fu yno yn dyweyd eu bod yn berwi y tê mewn crochan; a dywed Mr. Earp eu bod yn rhoddi y tê a’r sugr ar y tân i’w berwi ynghyd—ai gwir yw? |
Q. I heard a gentleman who has been there saying that they boil the tea in a pot; and Mr. Earp says they put the tea and the sugar on the fire to boil together—is it true? |
|
G. A ydynt yn bobl fudron yn eu tai, ac yn aflerw yn eu gwisgiad—y meibion yn gwisgo barfau o dwf blwyddyn, eu gwallt yn gynffonau yn disgyn ar hyd eu cefnau, fel y dywed rhai?5 |
Q. Are they dirty people in their houses, and untidy in dress—the men wearing a year’s growth of beard, their hair in pigtails hanging down their backs, as some say?5 |
|
G. A oes llawer o fuarthau a thai allan yn perthyn i’r ffermydd yno? |
Q. Do the farms there have many farmyards and outhouses? |
|
1 Y mae y lloer a’r ser yn ymddangos yn brydferthach yn Awstralia nag, fe allai, yn un parth arall o’r byd, a hyny i’w briodoli i glirder yr wybren. Ond nid yr un ser sefydlog a ganfyddir yno a’r rhan fwyaf a welwn ni. Y cydser mwyaf hynod yno ydynt, y Groes Fawr Ddeheuol, y Cwmpas, Llong Arydd, &c.; a’r ser unigol hynotaf ydynt, Achernar, Canopus, y ddwy seren fawr yn y Cwmpas, a’r seren-ddwbl wrth droed y Groes. 2 Ond y mae tai y “perthwyr” cyfoethocaf yn lleoedd mwy trefnus, ac yn llawn o bob anghenrheidiau, eto fel hyn y mae pob perthwr yn dechreu ei fyd. Yn hyn nid oes dim gwahaniaeth rhwng y “berth” yn Awstralia, a’r “sefydliadau cefn” yn America. 3 Gellwch ddrachtio eich dïod o godard neu bicyn mor awchus ag o wydr naddedig. Yn ofer yr edrych am y piano, y glwth a’r sofa, yr ochr-fwrdd mahogany, a’r cyffelyb. Y maent wedi rhoddi lle i’r gasgen-halltu, y gist-dê, y felin-law, y bwced, y crochan haiarn, a’r badell bridd; neu am y drychau a’r darluniau goreurog ar y parwydydd, y maent hwythau wedi cilio oddiar ffordd y badell-ffrïo, y gogr, y clorian, y fwyall, y cryman, &c. Ond y mae gan ambell “berthwr” lyfrgell go helaeth. Y mae rhai tai wedi eu heilio â gwiail a’u dwbio â chlai, eraill â’u parwydydd i gyd o risgl, oddigerth y cynnalbyst. Adeiledir bwthyn o’r fath yma mewn rhyw ddeuddydd neu dri o’r hwyaf. Y mae yn gyffredin yn ugain troedfedd wrth bedair ar ddeg. 4 Dywedai Mr. Whittaker, ei fod wedi gweled rhai yn eu cymysgu yn “ysgafn” fel crimpogau neu fara-sur-geirch, yn eu “tywallt” i dwll yn ochr y tân, ac yna yn rhiglo marwor arnynt. Soniai hefyd am ddull o rostio pysgod a chig a gafwyd oddiwrth y brodorion; sef, trwy boethi ceryg, a’u gosod yn bentwr ar y twll lle y dodasid y bwyd i gael ei goginio yn y lludw. 5 Gartref, yn y berth bell, yn ol tystiolaeth Mossman, y mae yr yswatiwr yn gwisgo barf, ac yn dilladu ei berson yn od, gan broffesu ei hun yn ddyn o genedl neillduol, a eilw efe yn “Berthwyr Awstralia;” ond pan ddaw i dref, y mae yn tori ei farf, ac yn gwisgo fel dyn arall. Go wan, yn wir! |
1 The moon and the stars appear more beautiful in Australia than perhaps in any other part of the world, and that is to be attributed to the clear sky. But the majority of the fixed stars to be seen there are not the same as those we see. The most notable constellations there are, the Great Southern Cross, the Compasses, the Ship Argo, &c.; and the most notable individual stars are, Achernar, Canopus, the two large stars in the Compasses, and the double star at the foot of the Cross. 2 But the houses of the wealthiest “bushmen” are more orderly places, furnished with all necessities, still every bushman starts his life like this. In this there is no difference between the “bush” in Australia, and the “back settlements” in America. 3 You can quaff your drink from a “goddard” or a piggin as keenly as from cut glass. In vain will you look for the piano, the lounge and the sofa, the mahogany sideboard, and the like. They have given way to the salt-box, the tea-caddy, the hand-mill, the bucket, the iron pot, and the earthenware pan. As for the mirrors and gilt pictures on the walls, they have yielded to the frying-pan, the sieve, the scales, the axe, the sickle, &c. But the occasional “bushman” has a sizeable library. Some houses are built of wattle and daubed with clay, others have all their walls made of bark, apart from the supporting posts. A hut of this sort can be built in two or three days at longest. They are commonly twenty feet by fourteen. 4 Mr. Whittaker says he has seen some mixed “light” like pancakes or bara surgeirch [a kind of leavened bread made in North Wales], “poured” into a hole beside the fire, and then brushed over with embers. He also mentions a method of roasting fish and meat taken from the natives; that is, by heating stones, and piling them on the hole in which the food has been placed to cook in the ashes. 5 At home, in the remote bush, according to the testimony of Mossman, the squatter wears a beard, and clothes his person in an odd fashion, professing to belong to a race apart, which he calls “Australian Bushmen;” but when he comes to town, he cuts his beard, and dresses like any other man. Rather weak, really! |