Free Web Hosting by Netfirms
Web Hosting by Netfirms | Free Domain Names by Netfirms


The content of this page,
and of the entire "Old Welsh Books with English Translations" website
is, save where prior right apply,
Copyright © John Bear.



Home        Contents        Previous        Next



RHAGYMADRODD.

Y mae mwy o son am Awstralia yn y dyddiau hyn nag am un wlad arall ar wyneb y ddaear. Y mae miloedd ar filoedd o’n hen gydwladwyr wedi cyrhaedd yno eisoes, a channoedd yn cychwyn allan agos gyda phob llanw. O ganlyniad, y mae yn anhebgorol anghenrheidiol i’r neb sydd yn bwriadu ymfudo gael cymaint o hanes y “Wlad Euraidd” ag sydd yn gyrhaeddadwy cyn ei gychwyn; tra y mae y rhai a farnant mai doethach yw aros gartref yn chwennychu gwybod i ba fath le y mae eu cymydogion ymadawol yn myned. Cyfarfod y dymuniad hwn yw ein hamcan yn nghyhoeddiad y gwaith bychan hwn: ac er nad yw yr awdwr, mewn un modd, yn meddwl y gall ymffrostio bod y llyfryn hwn yn meddu unrhyw deilyngdod fel cyfansoddiad Cymreig llenyddol, y mae yn hyder, yn ostyngedig, y cydnebydd pob darllenydd diragfarn na cheir cymaint o hanes Deheubarth Cymru Newydd a Phorth Phylip yn ngwaith unrhyw un awdwr arall, pa un bynag ai Cymreig neu Seisonig. Nid cyfarfod amddifadrwydd y Cymro uniaith yn unig oedd ei amcan; ond gwasanaethu y darllenydd dwyieithawg yr un ffunud, trwy roddi iddo, yn yr iaith Gymraeg, mewn un llyfr rhad, swm a sylwedd yr oll a ysgrifenwyd ar Awstralia gan yr awduron Seisonig: ac oblegid hyn y mae yn cyflwyno hyn o waith, yn ostyngedig a pharchus, nid yn unig i’r “Cymro glân,” ond hefyd i bob Sais, Ysgotiad, Gwyddel, neu estron, a fedr ddarllen Cymraeg. Cydnabyddir yr “awdurdodau” yn nghorff y gwaith: ac y mae yr awdur yn teimlo ei rwymedigaeth arbenig i’r ddau foneddwr Seisonig a grybwyllir yn y traethawd canlynol, y rhai a rhoddasant iddo, mor gymwynasgar a charedig, gymaint o hanes hen wlad eu hymdaith; gyda phob eglurhad ar yr hyn a ymddangosai yn dywyll, yn ddiffygiol, yn ammhëus, neu yn wrthddywediadol, yn y gwahanol awduron Seisonig. At hyn, ychwanegwyd darlith ragorol Mr. Schilling ar gloddio aur, yr hon na ymddangosodd o’r blaen mewn unrhyw waith ar Awstralia.

J. WILLIAMS [Glanmor].

INTRODUCTION.

There is more talk of Australia nowadays than of any other country on the face of the earth. Thousands upon thousands of our former compatriots have arrived there already, and hundreds set out with almost every tide. In consequence, it is absolutely necessary that any one intending to emigrate have as much of the story of the “Land of Gold” as is available before his departure; while those who consider it wiser to remain at home desire to know what kind of place awaits their departing neighbours. To meet this wish is our aim in publishing this small work: and although the author in no way believes that he can claim for it any merit as a Welsh literary composition, he is humbly confident that all unprejudiced readers will acknowledge that a fuller account of New South Wales and Port Phillip is not to be found in the work of any other single author, whether Welsh or English. To meet the need of the monolingual Welshman alone was not the aim, but also to serve the bilingual reader in the same way, by giving him, in the Welsh language, in one inexpensive book, the sum and substance of all that has been written on Australia by the English authors: and to this end the present work is presented, humbly and respectfully, not only to the “pure Welshman,” but also to every Englishman, Scot, Irishman, or foreigner who can read Welsh. The “authorities” are acknowledged in the body of the work: and the author feels his special debt to the two English gentlemen mentioned in the following treatment, who gave him, so kindly and obligingly, so much of the history of the land in which they had once travelled, with every explanation for what seemed obscure, defective, doubtful, or contradictory, in the various English authors. In addition, Mr Schilling’s splendid lecture on gold digging, which has not previously appeared in any work on Australia, has been included.

J. WILLIAMS [Glanmor].


Home        Contents        Previous        Next

The content of this page,
and of the entire "Old Welsh Books with English Translations" website
is, save where prior right apply,
Copyright © John Bear.